Skip to Main Content

Bydd disgyblion ledled Sir Fynwy yn elwa ar fwy o ddewis ac amrywiaeth amser cinio pan fydd y fwydlen ysgol newydd yn cael ei lansio ddydd Llun 2 Tachwedd 2026.

Datblygwyd y fwydlen newydd ar ôl mynd ati i gynnal adolygiad cynhwysfawr a oedd yn cynnwys adborth gan ddisgyblion, rhieni, ysgolion a staff arlwyo, ochr yn ochr â dadansoddi data gwastraff bwyd.

Dywedodd teuluoedd wrthym eu bod eisiau mwy o amrywiaeth, cyfleoedd i blant roi cynnig ar fwydydd newydd, wrth barhau i gael mynediad at y ffefrynnau poblogaidd. Mae’r adborth hwn wedi helpu i lunio’r fwydlen newydd a sicrhau ei bod yn cydymffurfio â Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion a ddiweddarwyd gan Lywodraeth Cymru.

Er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd a chadw opsiwn dyddiol dibynadwy sy’n cynnwys dewis arall, bydd potiau pasta newydd yn cael eu cyflwyno ar ddydd Mawrth a dydd Iau. Byddant yn cynnwys cyw iâr mayo, tiwna mayo, caws, corn melys a mayo, neu domato a chaws.

Bydd tatws pob dal i fod ar gael bob dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener.

Bydd y fwydlen yn parhau i ddarparu prydau iach, maethlon a fydd nawr yn cael eu gweini mewn dognau sy’n briodol i oedran babanod a phlant iau. Bydd disgyblion yn cael mynediad at amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau bob wythnos, ynghyd ag ystod gytbwys o opsiynau pwdin.

Drwy ymateb i’r adborth, newid rheoliadau ac ystyried cyflenwadau, gall y tîm barhau i wella profiadau amser cinio i ddisgyblion ledled Sir Fynwy.

Ychwanegodd y Cyng. Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae’n hanfodol ein bod yn darparu bwydlen amrywiol a maethlon sy’n rhoi’r egni sydd ei angen ar ddisgyblion, a’u gallu i ganolbwyntio er mwyn iddynt gael y gorau o’u haddysg.

“Mae sicrhau bod plant yn mwynhau eu prydau yr un mor bwysig, ac rwy’n hyderus y bydd y fwydlen newydd yn cael ei chroesawu ar draws ein hysgolion.

“Diolch i’r holl rieni a phlant a gymerodd yr amser i ddweud wrthym beth maen nhw wedi’i fwynhau am y bwydlenni a gyflwynwyd yn yr haf, a lle mae angen i ni wella.”

Bydd y fwydlen newydd yn dechrau gydag Wythnos 1 o’r cylch bwydlen o 2 Tachwedd 2026. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/school-meals