Skip to Main Content

Gwahoddir trigolion i alw heibio, gofyn cwestiynau a darganfod mwy am Adroddiad Llifogydd Adran 19 Dalgylch Afon Mynwy mewn sesiwn galw heibio i’r gymuned yn Nhrefynwy.

  • Dydd Mawrth 10 Tachwedd
  • 12:30pm to 7pm
  • Mhafiliwn Cymdeithas Chwaraeon Trefynwy, Cae Chwarae Chippenham, Trefynwy.

Nid oes angen cadw lle, gall trigolion alw heibio ar unrhyw adeg.

Yn dilyn llifogydd difrifol pan orlifodd Afon Mynwy yn ystod Storm Claudia ym mis Tachwedd 2025, mae Cyngor Sir Fynwy, sy’n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, wedi cwblhau ei ymchwiliad Adran 19. Mae’r adroddiad yn archwilio i achosion y llifogydd a’u heffeithiau, ac yn argymell camau i wella gwytnwch yn erbyn llifogydd, parodrwydd y gymuned a’i dealltwriaeth am y perygl o lifogydd yn lleol.

Mae’r sesiwn galw heibio yn gyfle i drigolion siarad yn uniongyrchol â’r sefydliadau dan sylw, gofyn cwestiynau am yr adroddiad a’i argymhellion, a darganfod beth sy’n digwydd nesaf.

Bydd cyfle i drigolion siarad yn uniongyrchol â chynrychiolwyr o:

  • Tîm Rheoli Perygl Llifogydd Cyngor Sir Fynwy – yn rheoli perygl llifogydd lleol o ddŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin, ac yn ymchwilio i ddigwyddiadau llifogydd sylweddol.
  • Cyngor Tref Trefynwy – yn cynrychioli’r gymuned leol ac yn gweithio gyda thrigolion a sefydliadau partner ar faterion sy’n effeithio ar Drefynwy.
  • Cyfoeth Naturiol Cymru – yn rheoli perygl llifogydd o brif afonydd ac yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill i leihau perygl ac effaith llifogydd.
  • Sefydliad Gwy a Wysg- yn gweithio i warchod ac adfer afonydd Gwy ac Wysg a’u dalgylchoedd ehangach, gan gynnwys gwella’r ffordd y caiff afonydd a thir eu rheoli.
  • Y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol – yn cefnogi pobl a chymunedau sydd wedi’u heffeithio gan lifogydd ac yn eu helpu i ddeall a rheoli eu perygl llifogydd.

I ddarganfod fwy am yr Adroddiad Adran-19 ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/cy/adroddiadau-ymchwilio-llifogydd/