Mae pobl o bob oed o bob rhan o Sir Fynwy yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar ddrafft o Strategaeth Iaith Gymraeg Cyngor Sir Fynwy 2027-2032.
Mae ymgynghoriad Sgwrsio am yr Iaith Gymraeg, sy’n rhedeg o ddydd Llun, 5 Hydref, tan ddydd Llun, 30 Tachwedd, yn rhoi cyfle i bobl ledled y sir rannu eu profiadau o’r Gymraeg. Mae hefyd yn nodi sut mae’r cyngor yn bwriadu darparu gwasanaethau dwyieithog, a gweithio gyda siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a chymunedau yn Sir Fynwy yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Er mwyn ei gwneud hi’n hawdd i bobl gymryd rhan, mae’r strategaeth ddrafft ar gael ar ffurf dogfen lawn a fersiwn gryno, felly’n galluogi i drigolion ddewis y lefel o fanylion sy’n addas iddyn nhw.
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Rydyn ni eisiau clywed gan gymaint o bobl â phosibl. P’un a yw’r Gymraeg yn rhan o’ch bywyd bob dydd, eich bod wrthi’n dysgu’r iaith, neu fod gennych farn ar sut mae’r cyngor yn darparu gwasanaethau dwyieithog, mae eich adborth yn bwysig. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i helpu i lunio’r ffordd yr awn o’i chwmpas hi, a sicrhau ein bod yn adlewyrchu anghenion cymunedau a’u profiadau ledled Sir Fynwy.”
I ddarllen y dogfennau a llenwi’r arolwg, ewch i: www.letstalkmonmouthshire.co.uk/
Mae’r holl wybodaeth a’r arolwg hefyd ar gael yn Gymraeg ar blatfform ymgysylltu’r Cyngor www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/y-gymraeg
Bydd copïau papur o’r arolwg ar gael yn ein hybiau cymunedol yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Gilwern, Magwyr, Trefynwy a Brynbuga.
Bydd yr holl adborth a ddaw i law yn ystod yr ymgynghoriad yn helpu i lywio’r Strategaeth Gymraeg derfynol cyn inni fynd ati i ystyried ei mabwysiadu
