Skip to Main Content

Mae busnesau twristiaeth ledled Sir Fynwy yn cael eu hannog i wneud cais am gynllun grant newydd sydd wedi’i gynllunio i wella hygyrchedd a sicrhau bod mwy o bobl yn gallu mwynhau popeth sydd gan y sir i’w gynnig.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio Grant Gwella Hygyrchedd i Ymwelwyr, ar gyfer mentrau preifat, gan gynnig cyllid o hyd at £10,000 ar gyfer prosiectau sy’n gwella mynediad i ymwelwyr ledled y sir.

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Gronfa Twf Lleol yng Nghymru, Llywodraeth y DU, a’i nod yw sicrhau bod Sir Fynwy yn gyrchfan y gall pawb ei fwynhau.

Yn flaenorol, mae cyllid grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin gan Croeso Sir Fynwy wedi cefnogi’r gwaith o osod dolen glyw yn Theatr Savoy Trefynwy, a gwella hygyrchedd yn Ardal Bicnic Gilwern ar hyd Camlas Mynwy ac Aberhonddu.

Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd wedi hyrwyddo twristiaeth hygyrch trwy ei gyfleusterau ei hun. Mae Canolfan Weithgareddau Gilwern yn cynnig profiadau awyr agored cynhwysol fel beicio wedi’i addasu, cadeiriau olwyn sy’n addas ar gyfer pob math o dir a ramp abseilio i gadeiriau olwyn.

I drafod y grant, neu i gael rhagor o gefnogaeth, cysylltwch â thîm Rheoli Cyrchfannau Cyngor Sir Fynwy drwy anfon e-bost at opheliarajpaul@monmouthshire.gov.uk neu beth am alw heibio un o’r hybiau canlynol rhwng 10am a 3pm:

· Hwb Cymunedol Gilwern ar 4 Medi

· Hwb Cymunedol Cas-gwent ar 11 Medi

· Hwb Cymunedol Brynbuga ar 23 Medi

· Hwb Cymunedol Cil-y-coed ar 28 Medi

· Hwb Cymunedol y Fenni ar 7 Hydref Am ragor o wybodaeth, ewch i visitmonmouthshire.com/destination-management/access-improvement-grants

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 11 Hydref.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Rydym am i bawb fwynhau ein sir, waeth beth yw eu hoedran, eu gallu i symud neu anghenion ychwanegol. Bydd y cynllun hwn yn helpu busnesau twristiaeth i wneud gwelliannau ymarferol i greu profiadau mwy cynhwysol a chroesawgar.

“Rwy’n annog busnesau cymwys i ddarganfod mwy a manteisio ar y cyfle hwn i’n helpu i sicrhau bod Sir Fynwy yn gyrchfan i bawb.”