cyhoeddedig 27/08/2026
O gael mynediad at wasanaethau’r cyngor i ddod o hyd i gymorth a chyngor lleol, gall trigolion Sir Fynwy ddarganfod cyfoeth o gymorth a chyfleoedd yn eu Hwb Cymunedol lleol.
Mae’r llyfrgell draddodiadol wedi dod yn llawer mwy, o gynnal grwpiau cymunedol a gweithgareddau am ddim, i gynnig lle cynhwysol sy’n estyn croeso i drigolion o bob oedran.
Os oes angen gliniadur arnoch neu help i fynd ar-lein, gall tîm yr Hwb Cymunedol helpu trigolion i gadw mewn cysylltiad trwy gynllun benthyca gliniadur am ddim. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael os ydych chi’n aelod o’r llyfrgell.
Gall trigolion ledled Sir Fynwy nad ydynt yn gallu ymweld â’u llyfrgell leol, barhau i fwynhau manteision darllen diolch i’r Gwasanaeth Cyflenwi i’r Cartref. Maent yn dod â llyfrau a deunyddiau llyfrgell eraill yn uniongyrchol i gartrefi trigolion.
Mae’r gwasanaeth hefyd yn helpu i leihau ynysu cymdeithasol, hyrwyddo llesiant, a sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau’r manteision niferus a ddaw wrth ddarllen.
Yn rhan o’r gwasanaeth hwn, bydd Swyddog Allgymorth penodedig yn trefnu i ymweld â’r trigolyn wyneb yn wyneb, gan gymryd amser i drafod eu dewisiadau darllen, eu diddordebau a’u gofynion unigol.
Mae’r fath agwedd bwrpasol yn sicrhau bod pob cwsmer yn cael deunyddiau sy’n gweddu, p’un a ydynt yn mwynhau ffuglen, llyfrau ffeithiol, print bras, neu lyfrau llafar.
P’un a ydych chi’n byw yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Gilwern, Trefynwy neu Frynbuga, fe welwch Hwb Cymunedol Sir Fynwy ar eich stepen drws. Dyma le diogel, croesawgar lle gall pobl gysylltu, dysgu, a chymryd rhan mewn ystod o weithgareddau am ddim.
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae’r Hybiau sydd yng nghalon ein cymunedau, yn chwarae rhan bwysig o ran dod â phobl at ei gilydd, drwy gydol y flwyddyn.
“Maent yn cynnig lle hygyrch, cynhwysol a chroesawgar. Rwyf yn annog pobl o bob oed i alw heibio a darganfod beth sydd ar gael.”
I ddarganfod mwy, ewch i Hafan – Sir Fynwy
