
Mae trigolion Gwndy yn cael eu hannog i ddweud eu dweud am welliannau arfaethedig i wneud y ffordd yn fwy diogel ar hyd y B4245.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn gofyn am adborth am gynlluniau sy’n bwriadu ei gwneud hi’n fwy diogel ac yn haws i bobl gerdded, olwynio, beicio, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a theithio drwy’r pentref.
Mae’r cynigion yn cynnwys croesfan Twcan newydd ger Rhodfa Pankhurst, llwybr a rennir rhwng Rhodfa Pankhurst a The Elms, uwchraddio mannau croesi i gerddwyr, arosfannau bysiau a chysgodfannau gwell i gynnwys gwybodaeth amser real i deithwyr, a gwaith i ailosod wyneb newydd ar y ffordd.
Mae’r cynllun yn ymateb i bryderon ynghylch diogelwch ar y ffyrdd lleol ac mae’n anelu at wella mynediad i bob defnyddiwr, drwy gefnogi teithio mwy diogel a chynaliadwy.
Mae hefyd yn rhan o gynlluniau ehangach i wella cysylltiadau teithio llesol rhwng Gwndy a Rogiet.
Mae’r cyngor eisiau clywed gan bobl sy’n byw, yn gweithio, yn teithio, neu’n mynd i’r ysgol yn yr ardal. Bydd adborth gan y gymuned yn helpu i lunio’r dyluniad terfynol cyn y disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau yn gynnar yn 2027.
Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth,: “Rydym am ei gwneud hi’n haws ac yn fwy diogel i bobl symud o gwmpas Gwndy, p’un a ydyn nhw’n cerdded, beicio, defnyddio sgwter symudedd neu’n dal y bws.
“Mae’n bwysig iawn bod pobl leol yn dweud eu dweud. Trwy rannu eich barn, gallwch helpu i lunio cynigion sy’n adlewyrchu anghenion y gymuned, a chefnogi teithiau bob dydd sy’n well i bawb.”
Gall trigolion weld y cynigion, dysgu fwy am y cynllun, a llenwi arolwg yr ymgynghoriad ar Sgwrsio am Sir Fynwy; www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/diogelwch-ffyrdd-gwndy
Ynghyd â’r arolwg ar-lein, mae croeso i drigolion ddod i sesiwn galw heibio’r cynllun yn Hwb Cymunedol Magwyr a Gwndy (y Neuadd Fach) rhwng 2pm a 5pm ddydd Iau 10 Medi.
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 23 Medi 2026. Bydd pob ymateb yn helpu i lunio gwelliannau diogelwch ar y ffyrdd yn y dyfodol yng Ngwndy.