Heddiw, 20 Awst 2026, mae disgyblion Sir Fynwy wedi casglu eu canlyniadau TGAU.
Mae’r dyddiad hwn yn nodi diwedd misoedd o waith caled ac mae’n ddiwrnod y bydd dysgwyr wedi bod yn edrych ymlaen ato wrth gynllunio eu camau nesaf mewn bywyd a gyrfa.
Mae pedair ysgol y sir, Ysgol Cil-y-coed, Ysgol Cas-gwent, Ysgol Brenin Harri VIII ac Ysgol Gyfun Trefynwy, wedi croesawu disgyblion a’u teuluoedd wrth iddynt ddarganfod canlyniad blynyddoedd o ymroddiad a gwaith caled.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn dymuno llongyfarch pob dysgwr a diolch i holl staff ein hysgolion.
Hoffem hefyd dalu teyrnged i’r teuluoedd sydd wedi eu cefnogi drwy gydol y blynyddoedd.
Dywedodd Laura Wright, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Addysg: “Llongyfarchiadau i ddosbarth 2026.
“Heddiw, rydym hefyd yn dathlu ymroddiad ein holl athrawon ledled y sir. Oherwydd eu gwaith caled, mae ein dysgwyr wedi gallu paratoi eu hunain ar gyfer y camau nesaf yn eu bywydau.
“Dymunwn y gorau i bawb ar ba bynnag lwybr rydych wedi dewis ei ddilyn.”
I’r rhai sydd bellach yn edrych ymlaen at gynllunio gyrfa yn y dyfodol, mae rhagor o wybodaeth a chyngor ar gael ar wefan Gyrfa Cymru: careerswales.gov.wales/ Mae cymorth iechyd meddwl am ddim ar gael hefyd drwy SilverCloud GIG Cymru, sy’n cynnig rhaglenni ar-lein hyblyg sy’n seiliedig ar dystiolaeth i helpu pobl ifanc i reoli straen, gorbryder a hwyliau isel. Cofrestrwch yma: nhswales.silvercloudhealth.com/signup/