Skip to Main Content

Mae myfyrwyr ar draws Sir Fynwy yn dathlu heddiw (13 Awst 2026) wrth iddyn nhw gael canlyniadau Safon Uwch, Safon UG a chymwysterau galwedigaethol, gan nodi carreg filltir bwysig yn eu haddysg ac agor y drws i amrywiaeth eang o gyfleoedd yn y dyfodol.

Ar draws y sir, mae myfyrwyr yn Ysgol Cil-y-coed, Ysgol Cas-gwent, Ysgol y Brenin Harri VIII ac Ysgol Gyfun Trefynwy wedi bod yn casglu eu canlyniadau, gyda chefnogaeth athrawon, staff a theuluoedd sydd wedi eu helpu trwy gydol eu siwrnai ddysgu.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn llongyfarch pob dysgwr ar eu cyflawniadau ac yn cydnabod eu hymroddiad, eu gwytnwch a’u gwaith caled er mwyn cyrraedd y cam hwn.

Meddai Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Mae heddiw yn ddiwrnod balch i fyfyrwyr, teuluoedd a chymunedau ysgolion ar draws Sir Fynwy.

“Mae cael canlyniadau arholiadau yn garreg filltir bwysig ac yn gyfle i edrych yn ôl ar y gwaith caled, yr ymrwymiad a’r penderfyniad sydd wedi dod â’n pobl ifanc i’r pwynt hwn.

“Waeth a ydy dysgwyr yn mynd ymlaen i’r brifysgol, i addysg bellach, i brentisiaethau, i swyddi neu yn archwilio cyfleoedd eraill, rydyn ni’n falch dros ben o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.

“Hoffwn ddiolch hefyd i’n hathrawon, staff yr ysgolion, rhieni, gofalwyr a theuluoedd am y gefnogaeth a’r anogaeth maen nhw’n eu rhoi trwy gydol y flwyddyn. Mae eu hymroddiad yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu ein pobl ifanc i gyflawni eu potensial.

“Llongyfarchiadau i Ddosbarth 2026, a dymuniadau gorau ar gyfer y cyfleoedd cyffrous sydd o’u blaenau.”

I fyfyrwyr sydd efallai’n ansicr ynglŷn â beth i’w wneud nesaf, mae cymorth ar gael. Mae Ymgyrch Canlyniadau blynyddol Cymru’n Gweithio yn tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o lwybrau sy’n agored i bobl ifanc trwy’r Warant i Bobl Ifanc, gan helpu i sicrhau bod pawb o dan 25 oed yn gallu cael gafael ar gyngor a chymorth gydag addysg, hyfforddiant, prentisiaethau neu gyflogaeth.

Mae Cymru’n Gweithio wedi datblygu amrywiaeth o adnoddau i helpu pobl ifanc a’u teuluoedd i ddeall yr opsiynau sydd ar gael ar ôl diwrnod canlyniadau, gan gynnwys canllawiau ymarferol, cyngor am yrfaoedd a gwybodaeth i gefnogi’r rheiny sy’n dal i benderfynu ar eu camau nesaf. Cewch ragor o wybodaeth yma: Sut y gallwn ni helpu | Cymru’n Gweithio Mae cymorth ychwanegol ar gael hefyd trwy SilverCloud GIG Cymru, sy’n darparu rhaglenni iechyd a llesiant meddyliol ar-lein am ddim sydd wedi’u cynllunio i helpu pobl ifanc i reoli straen, gorbryder a hwyliau isel. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan SilverCloud GIG Cymru: https://nhswales.silvercloudhealth.com/onboard/nhswales/