Mae Cyngor Sir Fynwy’n gofyn i grwpiau lleol a thrigolion am eu help wrth adnabod a chofnodi gweld gwenoliaid du ledled y rhanbarth.
Mae niferoedd gwenoliaid du wedi gostwng 75% ers 1995, ond mae yna rywbeth y gall pawb ei wneud i helpu i fynd i’r afael â hyn.
Mae gwenoliaid du’n paru am oes ac yn dibynnu ar ein hadeiladau ar gyfer bridio.
Mae taflen newydd a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Fynwy yn amlinellu sut y gall trigolion ledled Sir Fynwy helpu drwy gofnodi gweld gwenoliaid a gwneud eu cartrefi a’u gerddi’n fwy cyfeillgar wenoliaid du – https://www.monlife.co.uk/wp-content/uploads/2026/07/202604-Monmouthshire-CC-A5-Swift-Leaflet-Wel.pdf
Er eu bod yn debyg i rywogaethau fel gwenoliaid y bondo a gwenoliaid, mae- gwenoliaid du yn fwy ac mae ganddynt silwét nodweddiadol siâp bwmerang.
Maen nhw’n yn mudo i’r DU o ganolbarth Affrica ond dydyn nhw yn aros gyda ni am hir iawn, gyda llawer yn dychwelyd i Affrica erbyn dechrau mis Awst.
Gall trigolion helpu i ddarparu lloches a bwyd i wenoliaid du trwy:
– Osgoi cau tyllau bach yn eich tŷ. Mae gwenoliaid du’n hoffi nythu mewn craciau a bylchau mewn adeiladau
– Gosod blwch gwenoliaid – yn ddelfrydol ar wal sy’n wynebu’r gogledd
– Cyfri nifer y gwenoliaid du yn agos i’r lle yr ydych yn byw
– Gwneud eich gardd yn gyfeillgar i beillwyr er mwyn darparu digon o fwyd i’r gwenoliaid du
I rannu gwybodaeth am weld adar, cysylltwch â localnature@monmouthshire.gov.uk
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd, Catrin Maby: “Mae gwenoliaid du yn un o’r rhywogaethau eiconig sydd gennym yma yn Sir Fynwy.
“Os gwnawn ni i gyd yr hyn y gallwn i’w hamddiffyn a’u helpu i ffynnu yn ein cymdogaethau, efallai y byddwn yn gallu atal y gostyngiad yn y niferoedd.
“Gadewch i ni wneud Sir Fynwy mor gyfeillgar â phosibl i wenoliaid du.”