Mae ansawdd aer ym Mrynbuga wedi gwella i’r fath raddau nes bod Cyngor Sir Fynwy wedi dirymu Ardal Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA) Brynbuga, gan ddod â dynodiad a oedd wedi bod ar waith ers 20 mlynedd i ben.
Cymeradwywyd y penderfyniad yn ffurfiol ar 5 Mehefin 2026.
Roedd yr ARhAA yn canolbwyntio’n bennaf ar Stryd y Bont a rhannau o Castle Parade, Brynbuga, ac mae bellach wedi’i ddirymu yn unol â chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru.
Roedd yr ARhAA wedi’i ddatgan ym mis Tachwedd 2005 ar ôl i raglen fonitro’r cyngor yn nodi bod nitrogen deuocsid yn fwy na Lefel Amcan cymedrig blynyddol y DU o 40ug/m3. Mae nitrogen deuocsid yn llygrydd sy’n dod yn bennaf o gerbydau.
Sefydlwyd Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer ar gyfer Brynbuga yn 2009, ac mae wedi helpu’r Cyngor Sir, gan weithio’n bennaf gyda Chyngor Tref Brynbuga a Chyngor Cymuned Llanbadog, i ganolbwyntio ar a chydlynu ymdrechion i helpu i wella ansawdd aer, ochr yn ochr â datblygu technoleg peiriannau cerbydau glanach.
Mae camau allweddol wedi cynnwys gweithredu parth 20mya, darpariaethau a chyfyngiadau parcio, gweithio gyda busnesau i geisio osgoi cludiadau ar Stryd y Bont yn ystod oriau brig traffig, ac mae pob un o’r rhain wedi helpu i wella llif traffig a lleihau tagfeydd.
Mae prif gamau hefyd wedi cynnwys arwyddion a gorfodaeth i atal cerbydau HGV ac annog a hwyluso Teithio Llesol.
Mae tîm Iechyd Amgylcheddol y Cyngor wedi bod yn monitro lefelau nitrogen deuocsid ers i’r ARhAA gael ei datgan a 2014 oedd y flwyddyn olaf a gofnodwyd gyda mwy na’r lefel amcan blynyddol.
Mae’r duedd wedi gweld gostyngiad cyson mewn lefelau, ac yn 2025 roedden nhw tua hanner y lefel amcan neu’n is. Mae gostyngiadau sylweddol yn lefelau nitrogen deuocsid wedi’u gweld hefyd yn y prif drefi eraill yn Sir Fynwy gan gynnwys yr un ARhAA sy’n weddill yn Hardwick Hill (A48) yng Nghas-gwent.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldebau ac Ymgysylltiad, y Cyng. Angela Sandles: “Mae’r gwelliant hwn yn yr ansawdd aer yn gadarnhaol iawn, gyda chydweithrediad agos rhwng Cynghorau Sir, Tref Brynbuga a Chymuned Llanbadog yn helpu i gyflawni, ochr yn ochr â pheiriannau cerbydau glanach wrth gwrs.
“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnal cymunedau glân a diogel a byddwn yn parhau i fonitro ansawdd aer ym Mrynbuga ac ar draws Sir Fynwy, gan ddylanwadu’n gadarnhaol lle gallwn ar wella ansawdd aer i bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r sir.”