Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys
Gweithdrefn Gwyno Ysgolion
Dylid cyfeirio cwynion am ysgolion yn y lle cyntaf at Bennaeth yr ysgol. Os yw’r gŵyn am Bennaeth yr ysgol, yna dylid cyfeirio’r gŵyn at Gadeirydd y Llywodraethwyr, d/o yr Ysgol a’i marcio gyda “Preifat a Chyfrinachol” Mae mwy o wybodaeth ar gael ym mholisi cwynion yr ysgol, sydd ar gael o’r ysgol neu wefan yr ysgol. Mae cyngor ar weithdrefnau ar gael gan Dîm Cefnogi Llywodraethwyr ar 01443 864963.
Os yw eich consyrn, cwyn neu ganmoliaeth yn ymwneud â lefel y gwasanaeth a gynigir gan adran o fewn Cyngor Sir Fynwy, dylech ddilyn y polisi adborth corfforaethol. Mae hyn ar gael ar Cwynion, Sylwadau, Adborth a Chanmoliaeth ac mae mwy o wybodaeth ar gael gan y Rheolwr Gwasanaeth Cwsmeriaid ar 01633 644644.
Beth ydych chi’n ei wneud os ydych yn anhapus am y cwricwlwm y mae eich plentyn yn ei astudio?
Cynghorir i chi drafod materion sy’n eich pryderu ynghylch y cwricwlwm â Phennaeth eich plentyn oherwydd dylai hyn ddatrys y rhan fwyaf o faterion gobeithio. Os nad oes modd datrys mater fel hynny, mae gweithdrefn arbennig yn bodoli i ymdrin â chwynion am ddarpariaeth addysg i ddisgyblion.
Mae manylion llawn y weithdrefn ar gael yn y ddogfen dan y teitl: “Cwynion am y Cwricwlwm Ysgol a Materion Perthnasol”, sydd ar gael ym mhob ysgol a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol, llyfrgelloedd cyhoeddus, Siopau Un Stop a’r Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc.
Cyflenwir copi ar gais i unrhyw un sy’n dymuno cwyno o dan y weithdrefn.