Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys
Bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn Sir Fynwy yn cael lle yn yr ysgol oedd yn ddewis cyntaf eu rhieni. Fodd bynnag, os nad yw’n bosibl dyrannu lle yn yr ysgol a ddewiswyd, bydd lle yn cael ei gynnig mewn ysgol arall. Gall y rhieni apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod derbyn.
Caiff yr apêl ei benderfynu gan banel apêl annibynnol a sefydlir yn unol gyda’r côd Apêl Derbyn Ysgolion 2013. Mae’n rhaid i’r panel gynnwys tri i bump aelod a benodwyd gan yr Awdurdod Lleol o’r categorïau dilynol:
- Pobl sy’n gymwys i fod yn aelodau lleyg (pobl heb brofiad personol mewn rheoli ysgol neu ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol, gan anwybyddu profiad fel llywodraethwr neu mewn unrhyw swydd wirfoddol arall).
- Pobl sydd â phrofiad mewn addysg; sy’n gyfarwydd gydag amodau addysgol yn ardal yr Awdurdod Lleol neu sy’n rhieni plant a gofrestrodd mewn ysgol (heblaw’r ysgol lle gwneir yr apêl).
- Bydd y paneli Apêl Annibynnol yn gorfod ystyried pob achos yn unigol yn ôl ei deilyngdod ac ni allant eu cyfyngu eu hunain, ymlaen llaw, i dderbyn unrhyw nifer penodol o ddisgyblion.
Dylai ystyriaeth gan banel apeliadau gynnwys dau gam pendant:
1. Y Cam Ffeithiol, lle mae’r panel yn penderfynu ar sail ffeithiau a oedd rheswm cyfreithlon dros wrthod derbyn y disgybl; os nad oedd rheswm,rhaid derbyn y plentyn; os oedd rheswm, rhaid i’r pwyllgor symud ymlaen at:
2. Y Cam Pwyso a Mesur, lle mae’r panel yn barnu ac yn pwyso a mesur i ba raddau y byddai derbyn y plentyn yn niweidiol i addysg effeithlon, a chryfder achos y rhieni, er mwyn dod i benderfyniad sy’n rhwymol ar yr awdurdod derbyn.
Nid yw’r penderfyniad i apelio yn rhwystro’r rhiant rhag derbyn lle mewn ysgol arall tra bo’r gwrandawiad yn cael ei alw gan y bydd y panel yn pennu’r apêl ar sail cais. Os yw eich ysgol agosaf nesaf sydd ar gael wedi ei lleoli fwy na 2 milltir (Cynradd) neu 3 filltir (Uwchradd) oddi wrth eich cartref, byddech yn gymwys i wneud cais am Gludiant Di-dâl Rhwng y Cartref a’r ysgol.
Cynullir pob gwrandawiad Apêl gan Glerc Panel Apêl Derbyniadau Ysgol fydd yn ymdrechu i drefnu’r holl wrandawiadau apêl yn unol â gofynion deddfwriaethol.
Apeliadau yn achos Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
Os hoffech apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod lle i’ch plentyn i fynychu ysgol gwirfoddol a gynorthwyir yn Sir Fynwy, mae’n rhaid i chi gyflwyno apêl i’r corff llywodraethu (sydd eu hawdurdod derbyn eu hunain) fydd yn ystyried eich apêl yn unol â gofynion deddfwriaethol.