Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys
Cyflwyniad
Mae’r Cod Derbyn Ysgolion (2013) yn rhoi hawl i rieni i fynegi dewis i’w plentyn gael ei (d)derbyn i unrhyw ysgol a gynhelir gyda chyllid cyhoeddus. Mae polisi derbyn yr ysgol yn dod o fewn paramedrau Cod Ymarfer Derbyn Ysgolion a Chod Ymarfer Apeliadau Derbyn Ysgolion Gorffennaf 2013.
Fel ysgol wirfoddol a gynorthwyir, y Corff Llywodraethu sy’n gyfrifol am drefniadau derbyn Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Magwyr. Cafodd y cyfrifoldeb am drefniadau derbyn ei ddirprwyo i is-bwyllgor o Gorff Llywodraethu yr ysgol, a elwir y pwyllgor derbyn. Mae Uned Derbyn Myfyrwyr Cyngor Sir Fynwy yn cefnogi’r ysgol gyda phroses weinyddol derbyn i’r ysgol.
Bydd yr ysgol yn derbyn plentyn ar ddechrau’r flwyddyn academaidd pan fydd yn 5 mlwydd oed. Mae’r gofynion cyfreithiol yn cadarnhau y gall rhieni ohirio derbyn eu plentyn tan y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 5 oed; fodd bynnag, mae’r ysgol yn dilyn polisi’r Awdurdod Lleol y bydd y plentyn yn parhau i ddilyn eu grŵp blwyddyn gronolegol os nad oes amgylchiadau eithriadol.
Mae’r polisi yn ei le i gynnwys y dilynol:
i) Ceisiadau cylch derbyn. Y broses gais i gael ei dilyn ar gyfer plant sy’n gymwys i ddechrau yn yr ysgol gynradd.
ii) Trosglwyddiadau o fewn y flwyddyn rhwng ysgolion. Y broses gais i gael ei dilyn ar gyfer plant sydd eisoes o oedran ysgol, ond sy’n dymuno trosglwyddo o un ysgol i un arall.
Nifer derbyn
Mae nifer derbyn yr ysgol yn deillio o gapasiti ffisegol yr ysgol a gafodd ei gyfrif yn unol â dogfen ‘Mesur Capasiti Ysgolion yng Nghymru’ Llywodraeth Cymru. Y nifer derbyn o 55 yw’r nifer y dylid derbyn plant ato i grŵp oedran perthnasol e.e. dosbarth derbyn, os derbynnir nifer ddigonol o geisiadau. Ni ellir gwrthod lle i ddisgyblion nes cyrhaeddir y nifer o 55.
Mynegi dewis
Yn unol â chod ymarfer Derbyn i Ysgolion 2013, mae’n rhaid i rieni lenwi ‘Ffurflen Gais Gyffredin’ gan yr awdurdod lleol. Mae’r ysgol yn gweithredu system dewis cyfartal, sy’n golygu y caiff pob dewis ei ystyried yn gyfartal yn unol gyda meini prawf yr ysgol ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael, ac nid ar sail y drefn y cânt eu rhestru ar y cais. Pe gellid cyflawni mwy nag un dewis, caiff y dewis uchaf a ddangosir ar y ffurflen gais ei gynnig.
Amserlen
Y dyddiadau a gytunwyd ar gyfer Cylch Derbyn 2027/28 yw:
Dosbarth Derbyn
Gwneud cais o 13 Tachwedd 2026
Dyddiad Cau: 15 Ionawr 2027 am 4pm
Hysbysu rhieni erbyn: 16 Ebrill 2027
| Derbyn Y Cais: | Dyddiad Y Cynnig |
| 16 – 31 Ionawr 2027 | 1 Mai 2027 |
| Chwefror 2027 | 3 Mai 2027 |
| Mawrth 2027 | 14 Mai 2027 |
| Ebrill 2027 | 21 Mai 2027 |
| Mai 2027 | 11 Mehefin 2027 |
| Mehefin 2027 | 9 Gorff 2027 |
| 1 – 10 Gorff 2027 | 16 Gorff 2027 |
| 11 – 17 Gorff 2027 | 23 Gorff 2027 |
| 18 – 24 Gorff 2027 | 30 Gorff 2027 |
| 25 – 31 Gorff 2027 | 6 Awst 2027 |
| 1 – 7 Awst 2027 | 13 Awst 2027 |
| 8- 14 Awst 2027 | 20 Awst 2027 |
| 15 – 21 Awst 2027 | 27 Awst 2027 |
| 22 – 28 Awst 2027 | o fewn wythnos |
Dosbarthu ffurflenni cais
Rhaid i geisiadau am le mewn meithrinfa gael ei gyflwyno yn unol gyda’r dyddiadau uchod. Mae modd derbyn plentyn o’r term sydd yn dilyn ei benblwydd yn 3 mlwydd oed os oes lle ar gael.
Derbyn i Meithrinfeydd – Sir Fynwy
Rhaid cyflwyno cais am le yn y Dosbarth Derbyn
Dyrannu lleoedd ysgol
Lle mae nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn llai neu’n gyfartal â’r nifer o leoedd sydd ar gael, caiff pob plentyn eu derbyn os gall yr ysgol ddiwallu anghenion pob ymgeisydd. Fodd bynnag, pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd mewn ysgol, eir dros y nifer derbyn a chaiff y meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael eu gweithredu i ddewis pa blant gaiff gynnig lleoedd yn yr ysgol dan sylw.
Os caiff Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Magwyr ei nodi ar Ddatganiad Anghenion Addysgol Arbennig, mae’n rhaid i’r ysgol dderbyn y plentyn dan sylw. Pan weithredir y meini prawf os oes mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael i benderfynu i bwy y caiff lleoedd eu dyrannu, caiff pob dewis gan rieni eu trin yn gyfartal a’u dyrannu yn unol â’r meini prawf isod. Wrth ystyried gweddill y lleoedd sydd ar gael, caiff y meini prawf dilynol eu defnyddio i benderfynu pa blant gaiff gynnig lleoedd.
1. Plant sy’n derbyn gofal neu blant sy’n flaenorol wedi derbyn gofal h.y. caiff plant sydd yng ngofal yr Awdurdod Lleol neu a fu’n flaenorol yng ngofal yr Awdurdod Lleol flaenoriaeth dros y rhai sy’n cyflawni pwyntiau 2-6 isod. (Gweler Nodyn 1 isod)
2. Plant sydd ag o leiaf un rhiant sy’n mynychu addoliad/Ysgol Sul yn rheolaidd/arferol mewn eglwysi o fewn Ardal Gweinidogaeth Magwyr (Gweler Nodiadau 2 a 4 isod)
3. Plant sydd ag o leiaf un rhiant sy’n mynychu addoliad yn rheolaidd/arferol mewn eglwys Anglicanaidd arall (Gweler Nodiadau 2 a 3 isod)
4. Plant sydd ag o leiaf un rhiant sy’n mynychu addoliad yn rheolaidd/arferol mewn eglwys o enwad Cristnogol arall (Gweler Nodiadau 2 a 3 isod)
5. Plant sydd ag o leiaf un rhiant sy’n mynychu addoliad yn rheolaidd/rheolaidd mewn man addoliad ffydd arall (Gweler Nodiadau 2 a 3 isod)
6. Plant sydd â sibling sy’n ddisgybl yn yr ysgol adeg gwneud cais ac a fydd yn ddisgybl yn yr ysgol adeg derbyn (Gweler Nodyn 4 isod)
7. Plant gydag anghenion meddygol eithriadol, a gefnogir gan dystiolaeth ysgrifenedig, a roddir fel arfer gan swyddog meddygol annibynnol neu berson priodol arall. (Gweler Nodyn 8 isod)
Nodiadau
1. Mae plentyn sy’n derbyn gofal yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr yn unol ag Adran 22 Deddf Plant 1989 ac y mae’r awdurdod lleol wedi cadarnhau fydd yn derbyn gofal adeg y caiff y plentyn ei dderbyn i’r ysgol.
2. Rhiant yw unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros, neu sy’n warcheidwad cyfreithiol i, y plentyn.
3. Caiff addoliad rheolaidd/arferol ei ddiffinio fel mynychu addoliad ar o leiaf un dydd Sul bob mis dros y 12 mis blaenorol. Mae’n rhaid i dystiolaeth o hyn gael ei roi gan ddatganiad ysgrifenedig a lofnodwyd gan yr offeiriad neu weinidog perthnasol.
4. Mae sibling yn cyfeirio at frawd neu chwaer, hanner brawd neu chwaer, brawd neu chwaer mabwysiedig, llys frawd neu chwaer, plentyn maeth, neu blentyn partner y rhiant/gofalwr lle y ceisir lle ysgol i’r plentyn.
5. Bydd yr ysgol yn ystyried mai cyfeiriad cartref y plentyn yw lle mae’r plentyn yn preswylio am y rhan fwyaf o’r wythnos ysgol. Os caiff preswyliaeth plentyn ei rannu rhwng dau riant, defnyddir y cyfeiriad lle mae’r plentyn dan sylw yn preswylio am fwyafrif yr wythnos ysgol ar gyfer dibenion dyrannu. Dyma’r cyfeiriad y dylid ei ddatgan ar y cais. Fodd bynnag, os yw preswyliaeth gyda’r ddau riant yn ystod yr wythnos ysgol yn gyfartal, caiff y cyfeiriad lle telir y budd-dal plentyn ei ddefnyddio ar gyfer dibenion dyrannu.
Mae’r ysgol yn cadw’r hawl i wirio dilysrwydd unrhyw gyfeiriad a roddir, drwy ofyn am dystiolaeth tebyg i gynnwys ar y Gofrestr Etholiadol, neu fil cyfleustodau diweddar yn cadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad. Lle nad yw cyfeiriad parhaol y plentyn yr un ag ar gyfer y rhieni (e.e. mae ef neu hi yn preswylio gyda mam-gu neu dad-cu), mae’r ysgol yn cadw’r hawl i weld dogfennau swyddogol, tebyg i lyfr budd-dal plant neu gerdyn meddygol. Nid yw trefniadau gofal plant yn rheswm digonol am restru cyfeiriad arall. Os ydych yn symud i’r dalgylch, byddwn yn gofyn i chi am dystiolaeth o’ch symud, cyn ystyried unrhyw gais am le. Tystiolaeth arferol yw llythyr gan eich cyfreithiwr yn cadarnhau fod gennych gytundeb sy’n rhwymo’n gyfreithiol i brynu’r tŷ neu gytundeb prydles ffurfiol.
6. Bydd yr ysgol yn defnyddio System Gwybodaeth Daearyddol (GIS) yr Awdurdod Lleol i gyfrif pellter rhwng y cartref a’r ysgol. Caiff y llwybr cerdded diogel byrraf ei gyfrif yn defnyddio llwybrau swyddogol sy’n hysbys i’r Awdurdodau Lleol ac asiantaethau priffyrdd, o brif fynedfa cyfeiriad cartref yr ymgeisydd at glwyd agored swyddogol agosaf yr ysgol. Caiff manylion cyfeiriad ymgeisydd eu penderfynu yn defnyddio’r Rhestr Tir ac Eiddo Lleol a data Pwynt Cyfeiriad Arolwg Ordnans.
7. Lle na fedrir penderfynu llwybr cerdded diogel ar gyfer ymgeisydd, defnyddir y llwybr gyrru byrraf ar gyfer dibenion dyrannu.
8. Mae’n rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno i’w cais gael blaenoriaeth ar sail anghenion meddygol y plentyn gael eu cefnogi gan adroddiadymgynghorydd meddygol (a geir gan y rhieni adeg gwneud cais) yn amlinellu pam mai’r dewis ysgol yw’r unig opsiwn hyfyw a’r anawsterau a achosid pe byddai’n rhaid i’r plentyn fynychu ysgol arall.
Dilysu cyfeiriad
Os oes angen gweithredu’r meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd, bydd angen i rieni ddangos tystiolaeth addas i ddilysu eu cyfeiriad tebyg i fil treth gyngor.
Rhieni yn y broses o symud tŷ
Bydd angen i rieni sydd yn y broses o symud tŷ i hysbysu’r ysgol adeg gwneud cais am y bwriad i symud a chyflwyno tystiolaeth i ddilysu eu cyfeiriad newydd, er mwyn i’r cyfeiriad hwn gael ei ystyried. Mae tystiolaeth addas yn cynnwys copi o gyfnewid contractau (ar gyfer pryniannau) neu gytundeb tenantiaeth hirdymor (ar gyfer trefniadau rhentu), ac mae’n rhaid ei dderbyn cyn y dyddiad cau cyhoeddedig er mwyn cael ei ystyried fel cais “mewn amser”. Lle mae’r ysgol yn derbyn tystiolaeth i ddilysu symud tŷ ac yn defnyddio’r cyfeiriad newydd ar gyfer dibenion dyrannu, bydd y cynnig o le ysgol yn seiliedig ar i’r ymgeisydd fod yn breswyl yn y cyfeiriad hwn pan fydd y plentyn yn mynd i’r ysgol. Gallai unrhyw gynnig o le ysgol gael ei ddileu os canfyddir nad yw’r ymgeisydd yn breswyl yn y cyfeiriad adeg y bydd ei plentyn yn mynd i’r ysgol.
Caiff y cynnig o le ysgol ei seilio ar i’r ymgeisydd fod yn breswyl yn y cyfeiriad a roddwyd ar y ffurflen gais, fel ar y dyddiad cynnig a gyhoeddwyd. Fodd bynnag, os yw rhiant/gofalwyr yn gwybod cyn y dyddiad cynnig a gyhoeddwyd y byddant yn symud o’r cyfeiriad a roddwyd ar y cais, mae’n rhaid iddynt hysbysu’r Awdurdod Lleol cyn y dyddiad cynnig a gyhoeddwyd, a chaiff manylion eu cais eu diwygio. Bydd hysbysiad am newid cyfeiriad a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad cais a gyhoeddwyd yn golygu y caiff y cais ei benderfynu fel un hwyr, os yw’n debygol o effeithio ar eu sefyllfa o fewn y meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael ar gyfer y dalgylch ysgol.
Gellid dileu unrhyw gynnig o le ysgol fel canlyniad i beidio cydymffurfio â’r uchod.
Dalgylchoedd ysgolion
Er fod preswylio o fewn dalgylch ar gyfer ysgol yn ffurfio elfen o’r meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael, nid yw’n gwarantu lleoliad ar y sail hwn. Bydd yr ysgol yn gwrthod derbyn yn uwch na nifer derbyn yr ysgol, os nad yw’r cais yn cydymffurfio gyda’r eithriadau a ganiateir.
Derbyn plant genedigaeth luosog (e.e. gefeilliaid neu dripledi)
Os pan weithredir y meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael fod y plentyn olaf i gael ei dderbyn yn un o enedigaeth luosog, yna bydd yr ysgol yn derbyn y sibling(iaid) eraill.
Derbyn tu allan i’r cylch arferol
Dylai pob cais am dderbyn ar unrhyw amser heblaw’r mynediad arferol i’r Dosbarth Derbyn gael eu gwneud ar ffurflen gais yr Awdurdod Lleol. Caiff hyn wedyn ei anfon at yr ysgol. Caiff lleoedd eu cynnig yn amodol ar i ofod fod ar gael yn y dosbarth perthnasol.
Trefniadau ar gyfer ceisiadau hwyr
Caiff unrhyw gais a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddir, neu geisiadau sy’n parhau’n anghyflawn (e.e. heb dystiolaeth i wirio cyfeiriad newydd) ar y dyddiad cau ond a dderbynnir cyn y dyddiad cau, eu trin dan y trefniadau ar gyfer ceisiadau hwyr.
Hysbysu rhieni
Caiff rhieni eu hysbysu am benderfyniad ar eu cais ar y dyddiad cynnig a gyhoeddwyd.
Derbyn lle ysgol
Pan dderbynnir cynnig am le ysgol, mae’n ofynnol i rieni gadarnhau eu bod yn derbyn y lle ysgol hwn o fewn 14 diwrnod o hysbysiad am y cynnig lle ysgol. Gallai methiant i wneud hynny olygu y caiff y cynnig o le ysgol ei ddileu.
Trosglwyddo yn ystod y flwyddyn (derbyn tu allan i’r cylch derbyn arferol)
Caiff pob achos o drosglwyddo yn ystod y flwyddyn eu trin yn ôl y dyddiad y cyrhaeddant a lle derbynnir mwy o geisiadau ar yr un diwrnod na’r nifer o leoedd sydd ar gael, caiff meini prawf yr ysgol ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael ei weithredu i benderfynu i ba blant/blentyn y cynigir lleoedd.
Fel rhan o’r broses, bydd yr ysgol yn cysylltu ag ysgol bresennol y plentyn i gael gwybodaeth i’w rhannu gyda’r ysgol sy’n derbyn. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod mewn sefyllfa i gefnogi pontio priodol rhwng ysgolion.
Os derbynnir cais ar ôl plentyn sy’n derbyn gofal, yn unol â’r protocol
a gytunwyd gyda ysgolion, trefnir cyfarfod plant sy’n derbyn gofal gan
wahodd pawb sydd â diddordeb. Cyn y cyfarfod hwn bydd angen i’r
awdurdod sydd â lleoli rannu gwybodaeth berthnasol yn cynnwys y Cynllun Addysg Personol, cofnodion yr ysgol a’r Datganiad Anghenion Addysgol, os oes gan y plentyn un.
Gwrthodiad derbyn
Caiff gwrthodiad derbyn i ysgol ei wneud yn unol â Chod Ymarfer Derbyn Ysgolion 2013 ac mae’n seiliedig ar y penderfyniadau dilynol: P’un ai a fyddai derbyn plentyn yn rhagfarnu darparu addysg effeithol neu ddefnydd effeithiol o adnoddau – lle mae’r nifer derbyn wedi cyrraedd rheoliadau Llywodraeth Cymru ar faint dosbarth.
Yn dilyn gwrthod lle ysgol, caiff manylion y plentyn eu dal ar restr aros tan 31 Awst y flwyddyn academaidd y maent yn gwneud cais amdani. Os caiff unrhyw leoedd eu rhoi yn ôl yn ystod y cyfnod hwn, caiff lleoedd eu dyrannu o’r rhestr aros yn unol â’r meini prawf os oes mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael.
Rhestri aros
Caiff rhestri aros eu blaenoriaethu yn unol â’r meini prawf pan fo mwy o
geisiadau nag o leoedd ar gael ac ni chânt eu seilio ar ddyddiad cyflwyno
cais. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw hysbysu’r ysgol am unrhyw newid mewn
amgylchiadau sy’n effeithio ar y meini prawf hynny ac felly le eu plentyn ar y rhestr aros. Byddai newid cyfeiriad yn enghraifft o hyn.
Bydd yr ysgol yn cysylltu â’r rhiant perthnasol o fewn 7 diwrnod gwaith i le
ddod ar gael os yw eu plentyn yn cymhwyso ar gyfer ystyriaeth o’r lle. Caiff y rhiant 7 diwrnod i dderbyn neu wrthod yn ffurfiol mewn ysgrifen y cynnig o’r lle ysgol. Ar ôl hynny caiff enw’r plentyn ei dynnu o’r rhestr aros a chaiff y lle ei gynnig i’r plentyn nesaf ar y rhestr aros, gan y bydd yr ysgol yn tybio nad oes angen y lle mwyach.
Apeliadau
Gall rhieni plant na chynigiwyd lle iddynt apelio i banel apeliadau annibynnol. Mae manylion y weithdrefn ar gyfer apeliadau ar gael gan yr ysgol a chânt eu rhoi i rieni pan wrthodir lle i’w plentyn.
Cynllun Maint Dosbarthiadau Babanod
Mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i sicrhau na fydd unrhyw blentyn yn y Cyfnod Sylfaen mewn dosbarth lle mae’r gymhareb rhwng disgyblion ac athro yn fwy na 1:30. Roedd y Cynllun Maint Dosbarthiadau Babanod yn rhaglen a gyflwynwyd mewn camau rhwng mis Medi 1999 a mis Medi 2001 gan felly sicrhau y caiff pob plentyn hyd at 7 oed eu haddysgu mewn dosbarthiadau yn cynnwys dim mwy na 30 disgybl.
Cododd dau brif newid o’r ddeddfwriaeth ar faint dosbarthiadau. Yn gyntaf, ni fydd yn ofynnol i awdurdodau dderbyn plentyn i ddosbarth babanod os byddai gwneud hynny yn golygu y byddai dosbarth yn gweithredu gyda chymhareb athro/disgybl fwy na 30 disgybl.
Gall awdurdod derbyn wrthod derbyn plentyn i’r ysgol lle byddai gwneu hynny yn golygu y byddai angen i’r ysgol gymryd ‘mesurau cymhwyso’ (h.y. cyflogi athro ychwanegol, adeiladu ystafell ddosbarth ychwanegol) i gyrraedd y terfyn statudol ar faint dosbarthiadau. Yn ail, wrth ddelio gydag apeliadau derbyn dan ddeddfwriaeth maint dosbarth, nid yw Panel Apeliadau yn dilyn y broses ddau gam a amlinellir uchod. Yn lle hynny, dim ond os y gwnaed y penderfyniad i beidio derbyn y plentyn oherwydd i’r trefniadau derbyn gael eu gweithredu’n anghywir neu nad oedd penderfyniad yr awdurdod derbyn yn un y byddai awdurdod derbyn rhesymol yn ei wneud yn yr achos neilltuol hwnnw, y gall Panel Apêl gadarnhau apêl gan rieni.
Terfynau maint dosbarth Cyfnod Allweddol 2
Er nad oes unrhyw reoliadau i gyfyngu maint dosbarthiadau i 30 yng Nghyfnod Allweddol 2, mae’r ysgol yn cefnogi’r Awdurdod Lleol yn ei ymrwymiad i gydymffurfio gyda tharged Llywodraeth Cymru i sicrhau y cynhelir y gymhareb athro disgybl o 1:30 yng Nghyfnod Allweddol 2.
Eithriadau i’r cynllun maint dosbarth Babanod
Y mae fodd bynnag eithriadau (a elwir yn “ddisgyblion eithriedig”) a all ganiatáu mynd dros y terfyn o ddosbarth 30 disgybl. Y disgyblion a eithrir yw:
i. Plant ag ADY lle y mae eu Cynllun Datblygu Unigol yn nodi y dylent gael eu haddysgu yn yr ysgol dan sylw, ac sy’n cael eu derbyn i’r ysgol y tu allan i gylch derbyn arferol;
ii. Plant sy’n derbyn gofal neu blant sydd wedi derbyn gofal yn flaenorol a gaiff eu derbyn tu allan i’r cylch derbyn arferol.
iii. Plant y gwrthodwyd derbyn i’r ysgol i ddechrau, ond a gafodd wedyn gynnig le y tu allan i gylch derbyn arferol yn ôl cyfarwyddyd panel apêl derbyn, neu oherwydd bod y person sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad gwreiddiol yn cydnabod y gwnaed camgymeriad mewn gweithredu trefniadau derbyn yr ysgol;
iv. Plant na all sicrhau lle mewn unrhyw ysgol addas arall o fewn pellter rhesymol i’w cartref oherwydd eu bod yn symud i’r ardal tu allan i gylch derbyn arferol;
v. Plant y dymunir iddynt gael addysg mewn ysgol Gymraeg iddynt lle mae’r ysgol dan sylw yw’r unig ysgol o’i bath o fewn pellter rhesymol o’u cartref;
vi. Plant y dymunir iddynt gael addysg mewn ysgol o gymeriad crefyddol dynodedig lle mai’r ysgol dan sylw yw’r unig ysgol o’r fath o fewn pellter rhesymol o’u cartref;
vii. Disgyblion a gaiff eu derbyn i’r ysgol o fewn grŵp oedran y caiff plant eu derbyn fel arfer ac *eu derbyn ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn ysgol berthnasol; a * lle nad yw’r ysgol hyd yma wedi cyrraedd ei nifer derbyn ond eisoes wedi trefnu ei dosbarthiadau; a * lle byddai derbyn y plentyn yn golygu y byddai’r ysgol yn gorfod cymryd mesur perthnasol;
viii. Plant personél y lluoedd arfog a gaiff eu derbyn tu allan i’r cylch derbyn arferol;
ix. Plant y cafodd eu gefell neu sibling o enedigaeth luosog eu derbyn fel disgyblion heb eu heithrio, wrth i’r lleoedd olaf gael eu dyrannu cyn y cyrhaeddir nifer derbyn.
x. Plant sydd wedi cofrestru fel disgyblion mewn ysgolion arbennig, ond sy’n derbyn rhan o’u haddysg mewn ysgol brif ffrwd; a
xi. Plant gyda ADY a gaiff eu haddysgu’n arferol mewn uned arbennig mewn ysgol brif ffrwd ond sy’n derbyn rhai o’u gwersi mewn dosbarth heb fod yn ddosbarth arbennig. Bydd y disgyblion a eithrir yn parhau felly, unwaith y cânt eu derbyn, ar gyfer gweddill eu hamser yn y dosbarth babanod neu nes bod nifer dosbarthiadau yn gostwng ac y gellir eu trefnu i gydymffurfio gyda’r terfyn ar faint dosbarth babanod.
Cysylltwch â’r ysgol i gael mwy o wybodaeth. Mae’r manylion cyswllt fel sy’n dilyn:
Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Magwyr, Sycamore Terrace, Magwyr, Sir Fynwy, NP26 3EG
Mag.primary@monmouthshireschools.wales
Pennaeth Ysgol – Anthony Dixon-Gough