Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Cil-y-coed yn gweithio mewn partneriaeth ac wedi cael LDA Design i helpu i arwain datblygiad cynllun creu lle newydd ar gyfer Cil-y-coed. Maent yn gwahodd trigolion, busnesau ac ymwelwyr rheolaidd i ddweud eu dweud am ddyfodol canol tref Cil-y-coed.

Bydd Cynllun Creu Lle Cil-y-coed yn nodi cyd-weledigaeth ar gyfer canol y dref ac yn nodi prosiectau sy’n flaenoriaeth, er mwyn arwain buddsoddiad yn y dyfodol gan y sectorau cyhoeddus a phreifat. Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n gweithio’n dda, yr hyn y gellid ei wella a’r hyn sydd bwysicaf i’r gymuned, gan helpu i gefnogi canol tref ffyniannus, llwyddiannus a chroesawgar.

Fe fydd cam cyntaf y broses ymgynghori – Sgwrsio Am… Wella Cil-y-coed – ar y gweill o fis Mai i fis Mehefin 2026 ac mae wedi’i gynllunio i gasglu barn am sut mae canol y dref yn gweithio heddiw a pha flaenoriaethau yr hoffai pobl leol eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun. Bydd yr adborth yn helpu i ddylanwadu ar gam nesaf y prosiect, pan fydd y weledigaeth a ddatblygir a phrosiectau arfaethedig yn cael eu rhannu, i’w trafod ymhellach ym mis Medi a Hydref 2026.

Bydd pobl yn gallu cymryd rhan trwy ymgysylltu wyneb yn wyneb yng nghanol tref Cil-y-coed, ac ar-lein trwy Sgwrsio Am Sir Fynwy o ddydd Mawrth, 2 Mehefin 2026. Bydd copïau papur o’r holiadur hefyd ar gael yn Hwb Cymunedol a Llyfrgell Cil-y-coed a Swyddfeydd Cyngor Tref Cil-y-coed, o 2 Mehefin.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/gwella-cil-y-coed

Os hoffech siarad â swyddog am y prosiect, galwch heibio i ganol tref Cil-y-coed ddydd Mawrth, 2 Mehefin rhwng 10am a 6pm

Meddai’r Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd: “Mae hwn yn gyfle pwysig i bobl leol ddylanwadu ar ddyfodol canol tref Cil-y-coed. Rydyn ni eisiau clywed gan drigolion, busnesau ac ymwelwyr am yr hyn sy’n gweithio’n dda, beth y gellid ei wella a beth sydd bwysicaf iddyn nhw.

“Bydd eich adborth yn ein helpu i ddatblygu cynllun creu lle sy’n adlewyrchu blaenoriaethau lleol ac yn cefnogi canol tref bywiog, croesawgar a llwyddiannus ar gyfer y dyfodol.

Mae Cil-y-coed wedi cael y cyfle gwych hwn i wneud gwelliannau i’n tref.”

Meddai Maer Cil-y-coed, y Cynghorydd Maxine Mitchell: “Rydyn ni eisiau i drigolion, ymwelwyr, grwpiau cymunedol a busnesau ddweud eu dweud i ddylanwadu ar ein dyfodol.

“Da chi, manteisiwch ar y cyfle hwn i siarad â ni a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad i ymgysylltu â’r gymuned. Edrychwn ymlaen at glywed eich syniadau.”

Mae Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Cil-y-coed yn annog pawb sydd â diddordeb yng Nghil-y-coed i gymryd rhan a rhannu eu barn. Bydd adborth y gymuned yn chwarae rhan bwysig wrth lunio’r cynllun terfynol ac wrth greu canol tref sy’n adlewyrchu anghenion lleol, yn cefnogi buddsoddiad yn y dyfodol, ac yn adeiladu ar gryfderau Cil-y-coed.