Mae Cyngor Sir Fynwy’n falch iawn o gadarnhau y bydd ffordd Dyffryn Llanddewi Nant Hodni yn ailagor yn llawn ar 22 Mai, gan nodi cwblhau gwaith adfer yn dilyn y tirlithriad sylweddol yn gynharach eleni.
Ar ôl ailagor yn llwyddiannus mewn pryd ar gyfer Ras Flynyddol Achub Mynydd ar 16 Mai – gan groesawu ymwelwyr yn ôl i’r dyffryn – mae’r ffordd nawr yn barod i’w defnyddio’n llawn gan y cyhoedd, gan adfer cyswllt hanfodol i drigolion, busnesau ac ymwelwyr.
Achosodd y tirlithriad fis Chwefror amhariad sylweddol, gan effeithio ar fywyd pob dydd, busnesau lleol a mynediad ar gyfer teuluoedd, ffermwyr a thrafnidiaeth ysgol.
Diolch i ymdrech fawr ar y cyd, dechreuodd gwaith yn fuan ar ôl y Pasg ac mae wedi ei gwblhau mewn llai na chwe wythnos.
Mae hyn wedi bod yn bartneriaeth wirioneddol rhwng y gymuned leol, y cyngor cymuned, Cyngor Sir Fynwy a’r contractwyr, Griffiths, y mae eu hymrwymiad a chyflymder y cyflawniad wedi lleihau tarfu ac wedi ailgysylltu’r cwm cyn gynted â phosibl.
Dywedodd y Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae ailagor y ffordd yn llawn yn foment bwysig iawn i Ddyffryn Llanddewi Nant Hodni. Ar ôl i’r misoedd o amhariad, mae’n wych gweld y ffordd yn cael ei hadfer mor gyflym.
“Mae’r orchest hon yn adlewyrchu cryfder gwaith partneriaeth a gwytnwch y gymuned leol. Hoffwn ddiolch i’r trigolion am eu hamynedd, ac i’n swyddogion a’n partneriaid am fynd yr ail filltir i gwblhau’r gwaith mor gyflym.
Bydd gwaith pellach i orffen yn llwyr a chlirio’r safle’n parhau, ond mae’r ffordd ar agor yn llawn bellach.