Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi bod y ffenestr i Ddatgan Ddiddordeb ar gyfer ei Gronfa Fuddsoddi Lle a Thwf, sy’n anelu at gefnogi prosiectau sy’n gwella ardaloedd lleol ac yn hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy, ar agor.

Mae Cronfa Fuddsoddi Lle a Thwf yn un pwynt mynediad ar gyfer grantiau sy’n cefnogi gwelliannau i eiddo, adfywio, a mannau cyflogaeth.

Mae’r Gronfa’n rhoi cymorth grant i brosiectau sy’n golygu bod adeiladau gwag neu segur yn cael eu defnyddio unwaith eto, yn cryfhau canol trefi, ac yn creu lle i fusnesau a swyddi.

Mae Datgan Diddordeb yn gam cychwynnol, byr sy’n helpu i benderfynu a yw prosiect yn gymwys ai peidio, cyn symud ymlaen at y cais llawn.

Mae dau grant ar gael o fewn Cronfa Fuddsoddi Lle a Thwf, a dim ond un Datganiad o Ddiddordeb fydd gofyn i ymgeiswyr ei gyflwyno. Yna, bydd prosiectau yn cael eu hasesu a’u cyfeirio at y grant mwyaf priodol.

Mae’r grant Lle i Dyfu yn canolbwyntio ar ddatgloi potensial economaidd safleoedd gwag, segur sy’n cael eu tanddefnyddio, yn enwedig y rheiny sydd â photensial i gefnogi twf busnes, mannau cyflogaeth, a mentrau newydd, lle mae yna rwystrau ar y farchnad neu fylchau hyfywedd.

Mae’r Grant Gwella Eiddo i Ganol Trefi yn cefnogi gwelliannau i eiddo sydd yng nghanol trefi dynodedig, gan helpu defnyddio adeiladau unwaith eto, gwella cyflwr ac ymddangosiad adeiladau masnachol, a chryfhau bywiogrwydd ac atyniad canol trefi.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy: “Mae Cronfa Fuddsoddi Lle a Thwf yn cefnogi prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i’n trefi a’n cymunedau. Mae cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn gam gychwynnol, syml ac yn ein galluogi i roi arweiniad cynnar i ddarpar ymgeiswyr. Os ydych chi’n credu bod gennych brosiect sy’n bodloni’r meini prawf, cyflwynwch ffurflen neu cysylltwch ag un o’n tîm am drafodaeth anffurfiol.”

Rhaid cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb erbyn 31 Mai 2026. Cewch ragor o wybodaeth a’r ffurflen Datgan Diddordeb ar www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/lle-a-thwf