Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cadarnhau ei fod wedi cytuno ar y camau nesaf er mwyn darparu ateb parhaol ar gyfer y tirlithriad yn Neuadd Straight ar ffordd Dyffryn Llanddewi Nant Hodni.
Yn sgil cau’r ffordd ar 30 Ionawr, cyn hir bydd y Cyngor yn llofnodi contract gyda’r contractwr a ffefrir ganddo, sef cwmni Griffiths, gan ganiatáu i’r gwaith adeiladu ddechrau ar 7 Ebrill 2026.
Heddiw (30 Mawrth), gall y Cyngor gadarnhau ei fod wedi cytuno i gaffael ar y tir angenrheidiol ac i fynd i mewn i gytundeb cyfreithiol â pherchennog y tir er mwyn dechrau ar y gwaith o adfer mynediad i drigolion ar draws y Dyffryn. Nod y gwaith yw darparu ateb diogel, cynaliadwy, hirdymor.
Disgwylir i’r prosiect fod wedi’i gwblhau erbyn 15 Mai 2026, gan ddibynnu ar amodau’r tywydd a chyfyngiadau’r safle.
Meddai llefarydd ar ran Sir Fynwy: “Mae Cyngor Sir Fynwy yn cydnabod bod cau’r ffordd yn barhaus wedi tarfu ar bobl ac wedi effeithio ar y gymuned leol. Mae’r Cyngor yn parhau i weithio’n agos gyda thrigolion, busnesau a rhanddeiliaid allweddol er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl yn ystod y cyfnod adeiladu ac er mwyn rheoli effeithiau cau’r ffordd tra bod y gwaith ar y gweill.”
Byddwn yn rhannu diweddariadau pellach gyda’r gymuned wrth i’r prosiect fynd rhagddo, gan gynnwys gwybodaeth am weithgarwch adeiladu a threfniadau mynediad.