Mae plant yn Sir Fynwy wedi bod yn arwain y ffordd wrth annog pobl i brynu wyau Pasg a siocled Masnach Deg y Pasg. Maen nhw wedi bod yn dylunio posteri ar gyfer cystadleuaeth a drefnwyd gan Gyngor Sir Fynwy.
Cymerodd disgyblion o Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Gynradd Penfro yng Nghas-gwent, Ysgol Gynradd Gwndy, Ysgol Gynradd Llandogo, Ysgol Gynradd Osbaston yn Nhrefynwy ac Ysgol Gynradd Llandeilo Bertholau i gyd ran yn y gystadleuaeth, a chafwyd dyluniadau a gwaith celf gwych. Mae’r holl geisiadau yn mynd i gael eu harddangos yn eu Hybiau Cymunedol agosaf.
Mae Sir Fynwy yn sir Fasnach Deg, ac mae’r Cyngor, law yn llaw â gwirfoddolwyr ar draws y sir, yn gweithio’n galed trwy gydol y flwyddyn i helpu pobl i ddysgu am y gwahaniaeth y gall prynu Masnach Deg ei wneud i ffermwyr a thyfwyr mewn gwledydd sy’n datblygu.
Mae grwpiau trefi Masnach Deg yn y sir hefyd yn ymuno â lleisiau’r plant i annog pobl i ddewis siocled Masnach Deg y Pasg hwn.
Mae Fforwm Masnach Deg Cas-gwent wedi trefnu Cystadleuaeth Cwis Helfa Wyau Pasg yng Nghas-gwent rhwng 28 Mawrth a 12 Ebrill.
Codwch daflen ar gyfer y cwis yn Toytastik, chwiliwch am luniau wyau mewn ffenestri o amgylch y dref, darllenwch y ffeithiau ac atebwch y cwestiynau, yna rhowch eich taflen yn ôl. Bydd yr un sydd â’r mwyaf o atebion cywir yn ennill Wy Pasg Masnach Deg.
Mae Fforwm Masnach Deg Trefynwy yn cefnogi Ffair Wanwyn Eglwys Fethodistaidd Trefynwy ddydd Sadwrn 28 Mawrth rhwng 10am a 2pm, gyda Helfa Wyau Pasg Masnach Deg a stondin Masnach Deg, ynghyd â chyflwyniad gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Osbaston am Fasnach Deg.
Mae ffermwyr coco masnach deg yn cael pris teg am y gwaith maen nhw’n ei wneud, gyda gwarant o isafswm pris am eu coco. Maen nhw hefyd yn cael premiwm Masnach Deg y mae ffermwyr yn penderfynu gyda’i gilydd sut i’w wario er budd eu cymunedau, er enghraifft gofal iechyd, addysg neu ddŵr glân. Mae coco Masnach Deg hefyd o fudd i’r amgylchedd, oherwydd yn ogystal â safonau amgylcheddol cryf, mae’r nod Masnach Deg hefyd yn gwarantu nad oes datgoedwigo trofannol.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn ddiolchgar am gefnogaeth y Co-op sy’n gwerthu wyau Pasg Masnach Deg ac sydd wedi rhoi wyau Masnach Deg yn wobrau i’r disgyblion buddugol.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy: “Cafwyd dyluniadau gwych gan ddisgyblion ledled y sir sy’n amlwg yn poeni’n angerddol am siarad dros ffermwyr yn ogystal â bwyta siocled. “Cymerwch yr amser i edrych ar y cynigion yn eich llyfrgell leol a gwnewch y m-WY-af o’r cyfle i brynu wyau Pasg Masnach Deg eleni.”