Skip to Main Content

Mae trigolion 50 oed a throsodd yn cael eu gwahodd i ddod i ddau ddigwyddiad lles a fydd yn tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o wasanaethau, gweithgareddau a chymorth sydd ar gael ledled y sir.

Mae’r digwyddiadau hyn yn rhan o ymrwymiad parhaus Sir Fynwy i fod yn gymuned sy’n gyfeillgar i oedran. Mae’r ymrwymiad hwn yn dilyn cynnwys y sir yn Rhwydwaith Byd-eang Dinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Oedran Sefydliad Iechyd y Byd ym mis Gorffennaf 2025.

Bydd y ddau ddigwyddiad yn cael eu cyflwyno mewn dull a fydd yn galluogi’r rheiny sy’n bresennol i ryngweithio’n uniongyrchol â sefydliadau, cael gwybodaeth ac adnoddau, a darganfod gwasanaethau nad oeddent efallai’n gwybod amdanynt o’r blaen.

Manylion y digwyddiad

  • 10am i 2pm, Dydd Iau, 19 Mawrth 2026 – Neuadd Marchnad y Fenni, 61 Cross Street, Y Fenni, NP7 5HD
  • 10am i 2pm, Dydd Iau, 23 Ebrill 2026 – Canolfan Palmer, Cormeilles Square, Cas-gwent, NP16 5LH

Mae’r digwyddiadau yn agored i bob oedran, gan ganolbwyntio ar gefnogi poblogaeth 50 oed a hŷn Sir Fynwy, hyrwyddo lles, annibyniaeth a chysylltiad cymunedol.

Dywedodd y Cyng. Ian Chandler, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch: “Mae’r digwyddiadau lles hyn yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn gwybod pa gymorth sydd ar gael yn eu cymunedau lleol ac yn teimlo’n hyderus wrth gael gafael arni. Trwy ddod â gwasanaethau a sefydliadau at ei gilydd mewn un lle, rydym yn helpu trigolion i wneud cysylltiadau, dod o hyd i wybodaeth sy’n berthnasol iddynt, a chefnogi eu hiechyd a’u lles fel rhan o’n hymrwymiad ehangach i fod yn Sir Fynwy sy’n Gyfeillgar i Oedran.”

Mae amrywiaeth o sefydliadau eisoes wedi cadarnhau y byddan nhw’n bresennol, gan gynnwys Age Cymru, Gofal a Thrwsio, Abergavenny 50+, Cymru Gynnes, Cymunedau Cyfeillgar i Ddementia Gwent, U3A Cas-gwent, Tîm Ymgysylltu BIPAB, Heddlu De Cymru (Ymwybyddiaeth o Dwyll), Bowel Cancer UK, Fast Track Gwent, a’r Gymdeithas Alzheimer, gyda disgwyl i fwy ymuno..

I wybod mwy, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/cy/psb/partneriaethau/sir-fynwy-oed-gyfeillgar/ neu e-bostiwch Partnerships@monmouthshire.gov.uk