
Mae canlyniadau Arolwg Trigolion Sir Fynwy 2025 bellach ar gael ar-lein.
Casglodd yr arolwg hwn, a gynhaliwyd fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Trigolion Data Cymru, adborth gan dros 1,000 o drigolion rhwng Medi a Hydref 2025. Roedd yn archwilio barn ynglŷn â Sir Fynwy, gan gynnwys ar ardaloedd lleol, bywyd cymunedol, gwasanaethau’r cyngor, profiadau cwsmeriaid, a democratiaeth leol.
Mae’r canfyddiadau yn rhoi dealltwriaeth werthfawr o’r hyn sy’n bwysig i drigolion a byddan nhw’n helpu’r cyngor i nodi meysydd sy’n gweithredu’n dda a’r rheiny sydd angen eu gwella.
Mae crynodeb cyhoeddus o’r canlyniadau bellach ar gael ar wefan Sgwrsio am Sir Fynwy, ynghyd â gwybodaeth ynglŷn â sut y gall trigolion barhau i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau a gweithgareddau ymgysylltu â’r cyngor.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltiad, y Cyng. Angela Sandles: “Rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd amser i rannu eu barn trwy Arolwg Trigolion 2025. Mae’r adborth yn rhoi mewnwelediadau pwysig i ni am sut mae pobl yn teimlo am fyw yn Sir Fynwy a’u profiadau gyda gwasanaethau’r cyngor.
“Mae cyhoeddi’r canlyniadau ar Sgwrsio am Sir Fynwy yn rhan o’n hymrwymiad at fod yn agored ac at wrando ar ein cymunedau. Byddwn yn defnyddio’r hyn y mae trigolion wedi’i ddweud wrthym i helpu i lywio ein cynlluniau, gwella gwasanaethau a pharhau i weithio gyda’n cymunedau i wneud Sir Fynwy yn lle gwell fyth i fyw.”
I weld canlyniadau’r arolwg, ewch i: www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/arolwg-preswylwyr-2025
Llwyfan digidol yw Sgwrsio am Sir Fynwy sy’n darparu lle i drigolion a rhanddeiliaid roi adborth i’r cyngor. Yn ogystal â’r platfform ar-lein, bydd Sgwrsio am Sir Fynwy yn cael ei gynrychioli drwy ddigwyddiadau wyneb yn wyneb, fforymau a deunyddiau print, gan sicrhau y gall trigolion a phartneriaid i gyd ymgysylltu â’r cyngor. Gallwch gofrestru i’r platfform i ddysgu am y cyfleoedd diweddaraf yma: https://www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk.