Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ailddatgan ei ymrwymiad cryf a hirsefydlog i gymuned y Lluoedd Arfog trwy gadw statws Gwobr Aur yng Nghynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae cadw’r Wobr Aur yn cynrychioli llawer mwy nag achrediad. Mae’n ddatganiad clir o werthoedd y sefydliad a’i ymroddiad parhaus i gefnogi personél sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, Gwirfoddolwyr Oedolion y Llu Cadetiaid a theuluoedd milwrol.

Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn yw rhaglen flaenllaw’r Weinyddiaeth Amddiffyn sy’n cydnabod cyflogwyr sy’n mynd yr ail filltir yn eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog. Mae’r tair haen i’r cynlyn: Efydd, Arian ac Aur, gyda statws Aur yn cynrychioli’r lefel uchaf o gydnabyddiaeth.

Mae’n ofynnol i ddeiliaid Gwobr Aur ddangos eiriolaeth ragweithiol dros Amddiffyn, ymgorffori polisïau cyfeillgar i’r lluoedd arfog yn eu harferion recriwtio ac AD, cefnogi byddino a hyfforddiant milwyr wrth gefn, a hyrwyddo materion Amddiffyn mewn ffordd weithredol yn eu sector. Mae sefydliadau sy’n cyflawni ac yn cadw statws Aur yn cael eu cydnabod fel enghreifftiau o arfer ac arweinyddiaeth gorau.

Trwy gadw statws Aur, mae CSF yn cadarnhau nad yw ei ymrwymiad i gymuned y Lluoedd Arfog yn symbolaidd, ond yn hytrach y mae wedi’i ymgorffori yn ei ddiwylliant sefydliadol, ei bolisïau a’i arferion dydd i ddydd.

Mae sefydliadau Gwobr Aur hefyd yn chwarae rôl hanfodol allanol, gan arwain trwy esiampl ac annog eraill i fabwysiadu arferion sy’n ystyriol o Amddiffyn. Mae hyn yn cynnwys eiriol dros Gyfamod y Lluoedd Arfog, rhannu arfer gorau, ac annog cyflogwyr eraill i ymgysylltu â’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn.

Dywedodd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Sir Fynwy, y Cyng. Peter Strong: “Mae cadw ein Gwobr Aur yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn yn destun balchder gwirioneddol i’r sefydliad. Mae’n dangos bod ein cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog nid yn unig yn addewid, ond yn rhywbeth sydd wedi’i ymgorffori yn ein polisïau, ein diwylliant a’r ffordd rydyn ni’n gweithio bob dydd. Fel cyflogwr, rydym yn cydnabod y gwerth aruthrol y mae personél sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a theuluoedd milwrol yn ei gynnig, ac rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi, eu parchu ac yn gallu ffynnu yn ein gweithlu.”

Dysgwch fwy am ymrwymiad CSF i’r Lluoedd Arfog yma: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/y-lluoedd-arfog/