Skip to Main Content

Mae yna wahoddiad i ysgolion a phobl ifanc yn Sir Fynwy i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio poster sy’n annog pobl i brynu wyau Pasg a siocled Masnach Deg.

Mae’r gystadleuaeth gyffrous hon yn cael ei chefnogi gan y Co-op, sydd wedi rhoi wyau Masnach Deg yn wobrau i’r enillwyr.

A wyddech chi ein bod ni’n bwyta tua 80 miliwn o wyau Pasg bob blwyddyn yn y DU? Mae hynny’n llawer o siocled! Ond a wyddech chi fod yna lawer o fuddion i brynu cynhyrchion Pasg Masnach Deg, i ffermwyr a’r amgylchedd?

Trwy brynu wyau Masnach Deg, rydych chi’n sicrhau bod ffermwyr yn cael pris teg am eu gwaith, ac yn cael gwarant o bris am eu cnydau. Hefyd, rydych chi’n cael premiwm Masnach Deg, a mae ffermwyr yn penderfynu gyda’i gilydd sut i’w wario er budd eu cymunedau, er enghraifft gofal iechyd, addysg neu ddŵr glân.

Mae coco masnach deg hefyd o fudd i’r amgylchedd oherwydd, yn ogystal â safonau amgylcheddol cryf, mae’r nod Masnach Deg yn gwarantu nad oes unrhyw ddatgoedwigo trofannol.

I gymryd rhan, anfonwch eich poster at: Swyddog Polisi Cynaliadwyedd, Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA erbyn dydd Gwener 20 Mawrth. Wrth anfon y ceisiadau i mewn, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys enw, ysgol ac oedran/dosbarth yr unigolyn ifanc sy’n cymryd rhan. Mae gwobrau ar gael ar gyfer CA1, CA2 a CA3/4.

Bydd ceisiadau’n cael eu harddangos yn ein Hybiau/Llyfrgelloedd Cymunedol yn ystod y cyfnod cyn y Pasg.

Mae Sir Fynwy yn sir Fasnach Deg, a bob blwyddyn mae llawer o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu ar draws y sir i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r gwahaniaeth enfawr y mae rhoi ambell i eitem Fasnach Deg yn eu basged siopa yn ei wneud i fywydau ffermwyr ar draws y byd.

Meddai’r Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros yr Hinsawdd a’r Amgylchedd, “Mae cymaint o siocled yn cael ei fwyta adeg y Pasg! Ond gall mwynhau siocled ar yr adeg hon o’r flwyddyn hefyd wneud gwahaniaeth i bobl ac amgylcheddau mewn gwledydd eraill os ydym yn prynu Masnach Deg.

“Mae’n wych y bydd ein pobl ifanc yn defnyddio’u lleisiau a’u sgiliau artistig i helpu i gyfleu’r neges honno i gymunedau. Pob lwc i bawb sy’n cymryd rhan. Allwn ni ddim aros i weld eu dyluniadau.”