Mae Cyngor Sir Fynwy yn paratoi at waith diogelwch hanfodol ar goeden ffawydd gopr fawr ym Mharc Bailey yn y Fenni.
Barnwyd bod y gwaith yn angenrheidiol ar ôl i archwiliadau arferol ddatgelu pydredd yn system wreiddiau’r goeden.
Mae’r ffwng Meripilus giganteus wedi’i sefydlu o amgylch gwreiddiau’r goeden, ac mae graddau’r haint – sy’n amlwg yn yr hydref yn y twf ffwngaidd helaeth wrth y bonyn ac yn y dirywiad yn ffyniant canopi’r goeden – yn dangos bod y clefyd wedi cyfaddawdu’n sylweddol ar iechyd y goeden.
Yn anffodus, mae Meripilus giganteus yn fygythiad difrifol i goed ffawydd, gan ei fod yn gwanhau strwythur y gwreiddiau ac yn cynyddu’r risg y gallai’r goeden chwythu drosodd, yn enwedig yn ystod cyfnodau o wyntoedd uchel.
Er mwyn sicrhau diogelwch ymwelwyr â’r parc, bydd contractwr arbenigol yn datgymalu’r goeden ac yn ei symud yn ofalus. Bydd ardal o waharddiad yn ei lle yn ystod y gwaith.
Mae coed ffawydd copr addurniadol yn dueddol o fod yn fwy byrhoedlog na’u cefndryd, y ffawydd cyffredin, ac yn aml mae coed sy’n tyfu mewn lleoliadau trefol yn wynebu straen ychwanegol. Gall llygredd, cywasgu’r pridd, a newidiadau i arwynebau’r ddaear i gyd gael effaith hirdymor ar eu hiechyd.
Dros ei hoes, mae’r goeden benodol hon wedi dioddef pwysau sylweddol o amgylch ardal ei gwreiddiau, a law yn llaw â’r haint ffwngaidd, mae hyn wedi arwain at ei dirywiad.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby: “Er ei bod yn drist colli coeden aeddfed ac annwyl bob tro, mae’r Cyngor wedi ymrwymo o hyd i gynnal a gwella’r coed sy’n gwneud Parc Bailey yn lle mor bwysig i bobl a bywyd gwyllt. “Rydyn ni’n dal i blannu coed newydd ar draws y parc i wneud iawn am golledion naturiol ac i sicrhau bod y dirwedd yn parhau i fod yn gyfoethog, yn gydnerth ac yn brydferth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”