Mae Cynghorau Sir Fynwy a Swydd Gaerloyw wedi cytuno i greu gweithgor trawsffiniol i ddatblygu atebion i’r problemau hirsefydlog gyda thagfeydd yn ardal Cas-gwent.
Bydd y gweithgor yn datblygu cyfres o gynigion, gyda’r nod o wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol er mwyn cynnig dewisiadau ymarferol yn lle’r car.
Bydd y grŵp hefyd yn ystyried hyfywedd economaidd ac amgylcheddol a dichonoldeb datblygu datrysiad ffordd osgoi arfaethedig ac opsiynau priffyrdd eraill – gan gynnwys adnabod ffrydiau posibl ar gyfer cyllido’r gwaith.
Bydd y Cynghorau’n defnyddio’u llais cyfunol i lobïo dros welliannau i’r rhwydwaith rheilffyrdd a blaenoriaethau strategol eraill a fydd yn cael eu hamlygu gan y gweithgor.
Meddai Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Mary Ann Brocklesby: “Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda’n cymheiriaid yn Swydd Gaerloyw i lunio strategaeth sy’n gweithio i bawb.
“Does dim ateb syml i’r tagfeydd yng Nghas-gwent.
“Mae cydweithio er mwyn gwella cysylltiadau trafnidiaeth ar draws ein ffin, llwybrau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd dda o fynd i’r afael â’r mater a gwella bywydau pobl ar yr un pryd.”
Meddai’r Cynghorydd Lisa Spivey, Arweinydd Cyngor Swydd Gaerloyw: “Mae hwn yn gam cadarnhaol dros ben ymlaen, i’r ddwy sir. Er mwyn mynd i’r afael â thagfeydd yn yr ardal hon rhaid i ni weithio mewn partneriaeth, meddwl yn hirdymor a bod yn barod i archwilio atebion ymarferol. Mae’r cydweithio hwn yn dangos ein bod yn rhannu ymrwymiad i wella siwrneiau bob-dydd, cefnogi economïau lleol a chreu opsiynau teithio glanach, mwy cynaliadwy i drigolion. Trwy gyfuno ein cryfderau a gweithio ar draws ffiniau, gallwn gyflawni gwelliannau ystyrlon, go iawn i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Fforest y Ddena, Y Cyng. Adrian Birch: “Rydym yn croesawu creu’r gweithgor trawsffiniol yma fel cyfle i fynd i’r afael â materion nad ydynt yn stopio wrth ffiniau cynghorau. Wrth i ni gwblhau ein Cynllun Lleol drafft. Gyda disgwyl i ymgynghoriad ddechrau yn Chwefror, bydd y gwaith yma’n helpu i daclo materion trafnidiaeth sy’n effeithio ar fywydau pob dydd pobl a chreu cyfleoedd i wella teithio llesol yn ne’r ardal.”