Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch iawn o gyhoeddi uwchraddiad sylweddol i’r cae pob tywydd yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed, gan nodi cam cyffrous ymlaen i chwaraeon cymunedol yn yr ardal.
Bydd y prosiect yn gweld yr wyneb synthetig 2G presennol yn cael ei ddisodli gan gae 3G o’r radd flaenaf, a fydd yn darparu profiad chwarae mwy diogel, gwydn ac o ansawdd uchel i ysgolion, clybiau a thrigolion lleol.
Mae’r buddsoddiad hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus y cyngor i wella cyfleusterau chwaraeon a chwarae, gan greu mannau bywiog a hygyrch sy’n ysbrydoli cyfranogiad a mwynhad i bob oedran.
Mae’r datblygiad yn bosibl diolch i gefnogaeth partneriaid cyllido allweddol: Sefydliad Pêl-droed Cymru, Chwaraeon Cymru, a chyfraniadau gan y sector addysg.
Er mwyn sicrhau’r buddsoddiad hwn, mae’r prosiect yn dangos angen clir i’r gymunedol ac ysgolion, mynediad cymunedol y tu allan i oriau ysgol, a chydymffurfiad â safonau technegol 3G a gymeradwywyd gan FA Cymru/FIFA.
Mae cyfanswm o £456,000 wedi’i sicrhau ar gyfer y gwaith adnewyddu, gan gynnwys:
· £206,000 o Raglen Cyfleusterau FitForFuture Sefydliad Pêl-droed Cymru, sy’n cefnogi twf pêl-droed ar lawr gwlad ledled Cymru.
· £150,000 o Grant Cyfalaf Chwaraeon Cymru, sy’n helpu i ddarparu cyfleusterau chwaraeon cynaliadwy, modern a hygyrch.
Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau’r mis hwn, gyda tharged o gwblhau erbyn Ebrill 2026. Bydd diweddariadau’n cael eu rhannu trwy gydol y prosiect trwy dudalen pwrpasol – www.monlife.co.uk/caldicot-leisure-centre-development/ – a thrwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Sir Fynwy a MonLife.
Dywedodd y Cyng. Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Bydd y cyfleusterau hyn wedi’u huwchraddio’n hwb enfawr i’r dref a thu hwnt.
“Bydd y cae newydd ar gael i ddisgyblion ysgol yn ystod oriau ysgol, clybiau a thimau pêl-droed lleol, grwpiau chwaraeon cymunedol, ac aelodau o’r cyhoedd.
“Bydd hefyd yn galluogi mwy o gyfranogiad i fenywod a merched mewn amrywiaeth o chwaraeon a bydd yn ased gwych i Gil-y-coed a’r ardal ehangach.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Pêl-droed Cymru, Aled Lewis: “Mae Sefydliad Pêl-droed Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfleusterau sy’n ysbrydoli cymunedau. Bydd y prosiect hwn yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed yn hanfodol ar gyfer twf pêl-droed yn yr ardal leol.
“Diolch yn fawr i’n partneriaid, Llywodraeth y DU a Chwaraeon Cymru am gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r cyfleuster newydd hwn – trwy gydweithio, rydym yn gwneud camau enfawr wrth wella cyfleusterau pêl-droed yng Nghymru ar y cae ac oddi arno.”