
Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o gyhoeddi bod rhan olaf y llwybr teithio llesol sy’n cysylltu Porth Kingswood â chanol tref Trefynwy, ar agor.
Mae’r llwybr cerdded ac olwyno newydd, sy’n rhedeg o Midsummer Way, Porth Kingswood, i Stad Ddiwydiannol Wonastow, bellach ar agor. Mae’n cwblhau’r llwybr i Drefynwy ar hyd Lôn Cae Williams sydd eisoes yn rhan o’r llwybr teithio llesol.
Crëwyd y llwybr hygyrch i ffwrdd o’r briffordd, er mwyn cysylltu cartrefi a chyrchfannau.
Dyfarnwyd £338,000 i Gyngor Sir Fynwy i greu’r cynllun, diolch i Gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau (SRiC) a gefnogir gan Lywodraeth Cymru (LlC) 2025-26.
Defnyddiwyd arian o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a chyllid Adran 106 o’r ystâd dai i greu’r llwybr, a diolch i’r tywydd cynnes, sych dros yr haf, llwyddodd Tom Pritchard Contracting i’w gwblhau ym mis Tachwedd 2025.
Mae hyn yn dilyn datblygiad llwybr Kings Fee a pharc chwarae wrth ymyl Ysgol Overmonnow, cyffordd Heol Rockfield, y tu allan i Ganolfan Pontydd, a chroesfan i gerdded ac olwyno yn yr ystad ddiwydiannol i gysylltu’r llwybr cyfan.
Crëwyd y llwybr ‘heb gloddio’ sy’n golygu ei fod wedi’i adeiladu ar ben y tir presennol i gyfyngu ar effeithiau ecolegol y Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur y mae’n ei groesi. Codwyd y llwybr uwchlaw’r lefel i osgoi llifogydd posibl. Mae gan y llwybr hefyd bant draenio sy’n rhedeg wrth ei ochr, a chafodd ei ail-hadu gyda hadau a gasglwyd yn lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch , Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth,: “Mae’n wych agor y llwybr teithio llesol newydd yn Nhrefynwy. Bydd y llwybr yn caniatáu i drigolion Porth Kingswood ddewis cerdded neu olwyno i ddefnyddio’r gwasanaethau hanfodol a’r atyniadau yn yr dref.”