Mae Cyngor Sir Fynwy yn croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau trefniadau i gadw Camlas Mynwy a Brycheiniog ar agor yr haf hwn.
Mae’r penderfyniad hwn yn rhoi sicrwydd hanfodol i fusnesau lleol, perchnogion cychod a’r ymwelwyr y gallant barhau i fwynhau’r gamlas werthfawr hon tra bo gwaith yn mynd rhagddo ar atebion hirdymor i fynd i’r afael â heriau cyflenwad dŵr.
Mae’r cyngor yn cydnabod pwysigrwydd y gamlas fel rhan o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i sicrhau ei chynaliadwyedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r gamlas yn enwog am ei harddwch ac yn cael ei dewis yn aml fel un o’r rhai mwyaf prydferth yn y DU, gan ddarparu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sylweddol i’r ardal.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, y Cynghorydd Sara Burch:“Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i ddiogelu’r gamlas. Mae hwn yn gam cadarnhaol i’n cymunedau ac i bawb sy’n gwerthfawrogi’r rhan unigryw hon o dirwedd Sir Fynwy.”
Mae Cyngor Sir Fynwy yn parhau’n ymrwymedig i gadw Camlas Mynwy a Brycheiniog ac i sicrhau ei chyfraniad parhaus at les De-ddwyrain Cymru.