Cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy ei digwyddiad Rhyng-ffydd cyntaf erioed yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga, yr wythnos hon.
Trefnwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn siambr y cyngor, i ddathlu’r amrywiaeth o grefyddau ledled y rhanbarth.
Roedd nifer o siaradwyr gwadd yn bresennol, yn cynrychioli crefyddau fel Islam, Cristnogaeth, Baha’i, Sikhiaeth a Bwdhaeth, gan helpu i gyfoethogi dysgu a dealltwriaeth am eu ffydd.
Cyflwynwyd Mala Heddwch hefyd – sef breichled enfys ddwbl, symbolaidd, sy’n hyrwyddo cyfeillgarwch, parch a heddwch rhwng pobl o ddiwylliannau, ffyrdd o fyw, ffydd, a chredoau gwahanol, ochr yn ochr â’r rheiny sydd heb.
I ddilyn, cafwyd cyfle i wylio arddangosiadau ffydd, a mwynhau bwydydd traddodiadol.
Cynhaliwyd yr Wythnos Rhyng-ffydd gyntaf yn 2009, gydag ystod eang o ddigwyddiadau ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys:
o Gweithgareddau chwaraeon rhyng-ffydd
o Trafodaethau a deialogau
o Teithiau cerdded a phererindodau
o Gwyliau a dathliadau
o Arddangosfeydd, cyngherddau a gweithgareddau ystafell ddosbarth
Ers hynny, mae’r Wythnos Rhyng-Ffydd wedi tyfu’n sylweddol, gan feithrin deialog a chydweithredu ymysg cymunedau amrywiol.
Mae digwyddiadau Rhyng-Ffydd yn helpu i
· Hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol – adeiladu ymddiriedaeth a dealltwriaeth rhwng grwpiau amrywiol, gan feithrin cymdeithas gynhwysol.
· Trechu rhagfarn – chwalu stereoteipiau a herio canfyddiadau negyddol.
· Cyfoethogi bywydau – ehangu safbwyntiau, dyfnhau dealltwriaeth, ac annog twf personol.
· Addysgu – cynnig cyfleoedd i ddysgu am wahanol grefyddau a safbwyntiau’r byd, gan ddileu camdybiaethau.
Meddai Mary Ann Brocklesby. Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Rwy’n hynod o freintiedig i fod yn rhan o’r fath ddigwyddiad gwych. Mewn byd sydd wedi’i rannu, ac mewn gwrthdaro mewn cymaint o ffyrdd, mae dod at ein gilydd i ddathlu ac anrhydeddu nifer o grefyddau Sir Fynwy yn bwysig.
“Mae’n rhoi cyfle i ni i gyd gymryd amser a myfyrio ar y pethau sydd gennym ni yn gyffredin, y gwerthoedd yr ydym yn eu rhannu, a’n hymrwymiad i barhau i gynnal deialog â’n gilydd, ar draws ein ffydd”.