Mae ein gwasanaeth yn darparu cymorth gwirfoddol i deuluoedd gyda phlant cyn-geni i 18 oed sy’n byw yn Sir Fynwy
Sgroliwch lawr i gael mwy o wybodaeth neu glicio ar un o’r penawdau hyn i fynd yn syth at yr wybodaeth.

Adeiladu Teuluoedd Cryf
Yr hyn a wnawn:
Rydym yn gweithio mewn ffordd holistig i gefnogi’r holl deulu i adeiladu ar eu cryfderau pan fyddant yn mynd drwy gyfnod heriol.
Mae ein cymorth yn canolbwyntio ar y teulu ac yn bwrpasol i ddiwallu anghenion y teulu. Anelwn rymuso teuluoedd i gyflawni eu nodau eu hunain a sicrhau newid cadarnhaol.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig:
Tîm ymroddedig a medrus iawn o weithwyr cymorth teulu a all roi cymorth pwrpasol yn cynnwys:
- Rheoli ymddygiad
- Cynyddu hyder
- Cefnogaeth emosiynol
- Anawsterau gyda phresenoldeb ysgol
- Cydberthynas
- Rhaglenni rhianta seiliedig ar dystiolaeth
Yr hyn a gynigiwn:
Hyd at 12 wythnos o gymorth pwrpasol i deuluoedd, gan gwrdd gyda phlant a’u teuluoedd yn eu cartrefi, lleoliad yn y gymuned neu ysgol.
Dull aml-asiantaeth drwy gyfarfodydd Tîm o Amgylch y Teulu, gan sicrhau fod y teulu wrth galon cymorth ac y caiff cymorth ei gydlynu.
Cyfeiro neu atgyfeirio i wasanaethau eraill pe byddid yn dynodi cymorth ychwanegol.
Sut i atgyfeirio:
Rydym yn derbyn hunanatgyfeiriadau a chyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol. I atgyfeirio eich hun at y gwasanaeth, llenwch y ffurflen atgyfeirio drwy glicio ar y ddolen.
Cynhadledd Grŵp Teulu
Beth yw Cynhadledd Grŵp Teulu, a gaiff hefyd ei galw yn Gyfarfod Teulu:
Mae cynhadledd grŵp teulu yn gyfarfod cynllunio a gaiff ei arwain gan y teulu a’i drefnu gan berson annibynnol (Cydlynydd Cynhadledd Grŵp Teulu).
Mae’r broses yn sicrhau fod gan teuluoedd le canolog wrth wneud penderfyniadau.
Mae’r cyfarfod yn dod ynghyd â theuluoedd a phobl eraill sy’n bwysig i’r plentyn i greu cynllun ar gyfer y teulu.
Pam cael Cynhadledd Grŵp Teulu:
Gellir eu defnyddio pan fod angen gwneud penderfyniad am unrhyw agwedd o fywyd y plentyn.
Gweithwyr proffesiynol sy’n adnabod y teulu sydd â phryderon neu gall y teulu fod yn gofyn am gymorth.
Mae’n well cael cynhadledd grŵp teulu yn gynnar cyn i broblem waethygu.
Caiff y teulu eu cefnogi i greu eu cynllun eu hunain.
Mae cydlynydd cynhadledd grŵp teulu annibynnol yn hwyluso’r cyfarfod.
Y plentyn yw ffocws unrhyw benderfyniadau a wneir a gellir cynnwys eu sylwadau yn y cynllun.
Ble cynhelir Cynhadledd Grŵp Teulu:
Gall y teulu ddewis p’un ai yw’r gynhadledd grŵp teulu yn digwydd yn eu cartref neu mewn leoliad niwtral yn y gymuned.
Sut i atgyfeirio:
Unrhyw weithiwr proffesiynol sy’n adnabod y teulu. Gallai hyn fod yn athro, gweithiwr cymdeithasol neu weithiau gall deuluoedd eu hatgyfeirio eu hunain.
Sganiwch y cod QR i atgyfeirio

Cyfryngu Teulu
Cynigiwn wasanaeth cyfryngu teulu a gyflwynir gan ein gweithiwr cyfryngu sydd ag achrediad. Ein cenhadaeth yw darparu gwasanaethau cyfryngu teulu proffesiynol a thrugarog.
Beth yw cyfryngu teulu:
Mae cyfryngu teulu yn broses gyfrinachol a gwirfoddol sy’n cefnogi teuluoedd i drafod gwrthdaro a gwella cyfathrebu. Mae’n rhoi gofod diogel ac wedi eu strwythuro i aelodau teulu ymchwilio datrysiadau gyda’i gilydd, gyda help cyfryngwr diduedd.
Beth ydym ni’n ei wneud:
Cynigiwn ddau fath allweddol o gyfryngu:
- Cyfryngu Rhiant-i-Riant: Ffocws ar helpu oedolion sydd wedi gwahanu neu yn cyd-rianta i ddod i gytundeb ymarferol am drefniadau rhianta, cyfathrebu a chyfrifoldebau.
- Cyfryngu Rhiant-i-Blentyn: Cynnig llais i bobl ifanc mewn trafodaethau teulu a chefnogi dealltwriaeth rhwng rhieni a phlant, yn arbennig mewn cyfnodau o newid neu wrthdaro.
- Helpu i ostwng risg digartrefedd ieuenctid.
- Mae gan ein dull ffocws ar y plentyn a’r dyfodol, ac mae’n anelu i ostwng straen a chamddealltwriaeth o fewn teuluoedd.
Nid ydym yn:
- rhoi cyngor na chynrychiolaeth cyfreithiol
- cyhoeddi dogfennau cysylltiedig â llys (e.e. tystysgrifau MIAM)
Sut fydd cyfryngu yn digwydd:
Gall sesiynau cyfryngu ddigwydd wyneb yn wyneb, dros Teams neu drwy gyfryngu gwennol.
Sut i atgyfeirio:
Derbyniwn hunan-atgyfeiriadau ac atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol. I atgyfeirio eich hun i’r gwasanaeth, llenwch ffurflen atgyfeirio drwy glicio ar y ddolen
https://forms.office.com/e/2MKp33SN0f I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch yn uniongyrchol â’r tîm ar 01633 644296.
Mae gwasanaethau cyfeirio defnyddiol ar eu gael mewn un lle a gellir rhannu hyn yn eang gyda gwasanaethau a theuluoedd/pobl ifanc.
Panel Llesiant a Chymorth Teulu SPACE Sir Fynwy


