Dychwelodd Digwyddiadau Cymunedau Ffyniannus Sir Fynwy ym mis Hydref, gan groesawu mwy na 250 o drigolion mewn dwy sesiwn a gynhaliwyd ym Magwyr a’r Fenni.
Cynhaliwyd y digwyddiadau yn Hwb Magwyr a Gwndy ddydd Iau, 16 Hydref 2025 ac yn Neuadd Farchnad y Fenni ddydd Llun, 20 Hydref 2025.
Ymhlith rhai o’r sefydliadau a oedd yn bresennol oedd Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen, Cadwch Gymru’n Daclus, Cymdeithas Drama Amatur Magwyr (MADS), Sparkle – Gwasanaeth Cyswllt â Theuluoedd a Chlwb Cookalong.
Roedd y digwyddiad ar ffurf marchnad, yn ffordd i grwpiau a gwasanaethau cymunedol ddangos y gefnogaeth a’r gweithgareddau sydd ar gael yn y gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ymgysylltu a Chydraddoldeb: “Roedd digwyddiadau Cymunedau Ffyniannus 2025 yn anhygoel, a braf oedd croesawu pawb eleni.
“Maent yn gyfle gwych i drigolion ddysgu am y gwasanaethau a’r sefydliadau sydd ar gael yn eu cymuned.
“Diolch i bawb a gymerodd yr amser i alw heibio.”

Mae’r digwyddiad yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU a chaiff ei drefnu gan Gyngor Sir Fynwy, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent a Chymdeithas Tai Sir Fynwy.
I ganfod mwy, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/uk-shared-prosperity-fund-spf/can/