Heddiw, mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi ei fod yn cymryd rhan yn Niwrnod Rhyngwladol Gweithredu Llythrennedd Carbon, sy’n cael ei gynnal bob blwyddyn.
Mae’r diwrnod hwn yn tynnu sylw at yr ymroddiad i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd trwy Lythrennedd Carbon, lleihau’r carbon y mae’r sefydliad yn ei allyrru, a’i ymrwymiad i weithio tuag at ddyfodol di-garbon.
Diwrnod Gweithredu Llythrennedd Carbon yw’r digwyddiad hyfforddi mwyaf ledled y byd o ran addysg a gweithredu dros yr hinsawdd. Cynhelir y digwyddiad ddydd Iau 13 Tachwedd, 2025, i gyd-fynd â Chynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig COP30, sef y gynhadledd hinsawdd fwyaf sy’n cael ei chynnal yn flynyddol.
Tra bod arweinwyr byd-eang yn cyfarfod ym Mrasil i drafod polisïau hinsawdd, bydd miloedd o ddysgwyr o bob cefndir, ledled y byd yn cwblhau eu hyfforddiant Llythrennedd Carbon.
Fel rhan o’u diwrnod hyfforddi, bydd dysgwyr yn dysgu am wyddorau hinsawdd craidd ac effaith carbon, ac yn gorffen drwy wneud addewidion i leihau eu hôl troed carbon eu hunain a chymryd camau yn eu bywydau personol a phroffesiynol.
Bydd Cyngor Sir Fynwy yn darparu hyfforddiant Llythrennedd Carbon i staff y cyngor, swyddogion ac aelodau o’r gymuned yn Neuadd y Sir, Brynbuga, yn rhan o CLAD 2025.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd, “Mae Cyngor Sir Fynwy yn gyffrous i gymryd rhan yn CLAD 2025.
“Mae Llythrennedd Carbon ac ymgorffori addysg a gweithredu dros yr hinsawdd ledled y cyngor a thu hwnt yn rhan bwysig o Strategaeth Argyfwng Hinsawdd a Natur y cyngor.”