Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi agor Hwb Technoleg Gynorthwyol newydd yn Ysbyty Cymunedol Dyffryn Mynwy yn swyddogol.

Mae’r Hwb yn galluogi swyddogion y Cyngor, staff Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, a sefydliadau allanol eraill i archwilio’r atebion technolegol sydd ar gael i drigolion Sir Fynwy.

Cynlluniwyd yr Hwb Technoleg i arddangos dewis o dechnolegau arloesol sy’n cefnogi pobl ac yn eu galluogi i fyw’n gyfforddus ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Trwy ymweld â’r Hwb Technoleg gall gweithwyr proffesiynol ddod o hyd i offer sydd ar gael a fyddai o fudd i ddefnyddwyr eu gwasanaethau, cyn cyflwyno atgyfeiriad at y tîm Technoleg Gynorthwyol.

Yn dilyn llwyddiant yr ystafelloedd yn Ysbyty Cymunedol Cas-gwent, bydd yr ystafell newydd yn arddangos y dechnoleg sydd ar gael ar gyfer atal pobl rhag cwympo, adsefydlu, gofal dementia a mynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol.

Mae prisiau’r dechnoleg yn dechrau ar £5 yr wythnos ac mae yna derfyn o £10 yr wythnos, ynghyd â thâl untro o £50 i osod yr offer. Os ydych chi’n adnabod unrhyw un a fyddai’n elwa ar y gwasanaeth hwn, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Technoleg Gynorthwyol Sir Fynwy – Monmouthshire.

Meddai’r Cynghorydd Ian Chandler, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch: “Mae Cyngor Sir Fynwy eisiau i’n holl drigolion allu byw’n ddiogel ac yn gyfforddus yn eu cartrefi. Gall Technoleg Gynorthwyol chwarae rhan hanfodol yn hyn.

“Mae’r dechnoleg sydd ar gael yn cynnig cymorth hanfodol i drigolion, ac yn cynnig sicrwydd iddyn nhw a’u teuluoedd y gallant roi gwybod i rywun os bydd rhywbeth yn digwydd.”