Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn annog trigolion i ymweld â Chaffis Trwsio cymunedol i drwsio eitemau o’r cartref sydd wedi torri, yn hytrach na phrynu rhai newydd.  

Ar Ddiwrnod Trwsio Rhyngwladol, dydd Sadwrn, 18 Hydref, bydd Caffi Trwsio misol y Fenni ar agor rhwng 11am a 2pm, yn cynnig cyfle i drwsio popeth, o deganau a beiciau i ddillad, dodrefn a gwaith coed.  

Er gwaethaf ei enw, mae Diwrnod Trwsio Rhyngwladol yn llawer mwy na diwrnod. Mae’n uchafbwynt mis cyfan sy’n dathlu sut y gall rhywbeth mor syml â thrwsio pethau ddod â chymunedau at ei gilydd, lleihau ein heffaith ar y blaned, addysgu sgiliau newydd a llawer mwy.  

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae ein caffis trwsio yn dystiolaeth go iawn o gymuned, ac maent wedi tyfu i fod yn ffordd o gynnig dewisiadau mwy cynaliadwy i’n cymdeithas fodern.  

“Mae’r Caffis Atgyweirio yn dibynnu ar y gymuned. P’un a ydych chi’n un sy’n trwsio, trefnu, potsian, creu, neu’n fusnes trwsio, mae angen eich arbenigedd a’ch sgiliau ar y Caffis Trwsio.  

“Os oes gennych eitem sydd wedi torri, neu rywbeth sydd wedi gweld dyddiau gwell, beth am alw heibio i’ch Caffi Trwsio lleol a gweld a allant roi bywyd newydd iddo am ddim. Mae trwsio yn hytrach na phrynu yn arbed arian i chi, ac mae’n un o nifer o ffyrdd y gall bob un ohonom helpu i gymryd camau pwysig tuag at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”  

Yn Sir Fynwy, mae pedwar Caffi Trwsio eisoes yn cynnal digwyddiadau misol i drwsio nwyddau cartref i aelodau’r cyhoedd.   Gallwch alw heibio:  

  • Caffi Trwsio y Fenni: Canolfan Gymunedol y Fenni, Yr Hen Ysgol, Stryd y Parc, Y Fenni. Ar agor11am-2pm, dydd Sadwrn 18Hydref.
  • Caffi Trwsio Cas-gwent:  Monmouthshire Upcycle, Heol yr Orsaf, Cas-gwent. Ar agor 10am-1pm, dydd Sadwrn 1 Tachwedd.
  • Caffi Trwsio Goetre: Canolfan Gymunedol Goetre, Lôn yr Ysgol, Penperlleni. Ar agor 10am-1pm, dydd Sadwrn 11 Hydref.
  • Caffi Trwsio Trefynwy: Canolfan Gymunedol Parc Rockfield, Ffordd Cornwallis, Trefynwy. Ar agor 2pm-4pm, dydd Sul 19 Hydref.  

Dysgwch fwy am brosiectau Caffis Trwsio yn Sir Fynwy drwy ymweld â Caffi Trwsio Cymru – Caffis Trwsio Cymunedol Lleol