Yn dilyn deiseb ddiweddar gan drigolion ynglŷn â’r newidiadau i’r Polisi Cludiant rhwng y Cartref a’r ysgol, mae Cyngor Sir Fynwy wedi comisiynu asesiad annibynnol o dri llwybr cerdded.
O ganlyniad i’r asesiad annibynnol, mae’r llwybr cerdded o Lanarfan i Ysgol Gynradd The Dell wedi’i nodi fel un na sydd ar gael. O ganlyniad, mae cludiant rhwng y cartref a’r ysgol wedi’i adfer i ddysgwyr sy’n byw o fewn y pellter statudol o 2 filltir.
Hefyd, gwerthusodd yr aseswyr annibynnol y llwybrau o Fatharn i Ysgol Gyfun Cas-gwent ac o Gil-y-coed i Ysgol Gynradd Archesgob Rowan Williams. Maent wedi cytuno â’r Cyngor bod y llwybrau hyn ar gael, sy’n golygu nad yw dysgwyr yn gymwys i dderbyn cludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar y llwybrau hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Laura Wright, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir Fynwy: “Mae’r newidiadau hyn i gludiant rhwng y cartref a’r ysgol yn dangos ein bod yn gwrando ar bryderon rhieni a byddwn yn gwneud newidiadau pan fydd asesiad yn dangos eu bod yn angenrheidiol. Mae’r asesiadau annibynnol o’r llwybrau hyn i ysgolion yn sicrhau bod gweithdrefnau’r Cyngor yn cael eu profi’n drylwyr ac yn gadarn – ac rydym wedi gweithredu’n gyflym mewn ymateb i’r canfyddiadau. Byddwn yn parhau i weithio i wella’r seilwaith cerdded o’r cartref i’r ysgol, gan ganiatáu i bobl gymryd teithiau mwy cynaliadwy pryd bynnag y bo modd.”