
Mae Cyngor Sir Fynwy yn gwahodd aelodau o’r gymuned a mudiadau cymunedol i gyflwyno ceisiadau am gyllid o dan gynllun Cyllideb y Gymuned.
Mae Cyllideb y Gymuned wedi cael £24,000 o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Cyllideb y Gymuned wedi’i chynllunio’n benodol i gefnogi prosiectau bach, lleol sy’n gallu cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau.
Nod y prosiect yw galluogi pobl leol i gyflwyno a rhannu eu syniadau ar gyfer gwella’u hardaloedd a chymryd yr awenau ar brosiectau sy’n bwysig iddyn nhw.
Gellir cyflwyno ceisiadau am gyllid trwy ffurflen fer ar Sgwrsio Am Sir Fynwy, a bydd copïau papur o’r ffurflen ar gael mewn Hybiau Cymunedol ac yn Llyfrgelloedd y Cyngor. Bydd y broses ymgeisio ar agor rhwng 1 Hydref 2025 a 31 Tachwedd 2025. Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus ar ôl 1 Rhagfyr 2025 i drafod y camau nesaf.
Mae’r meini prawf ar gyfer ymgeisio yn nodi y dylai prosiectau arfaethedig: wella’r amgylchedd, llesiant neu fywyd cymunedol, fod yn gynhwysol ac yn agored i bawb; a gallu cael eu cyflawni erbyn 31 Mawrth 2026. Ddylai’r prosiect ddim dyblygu gwasanaethau sy’n bodoli yn barod, er y gall weithio ochr yn ochr â nhw.
Meddai’r Cynghorydd Angela Sandles, Aelod o’r Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Dyma gyfle gwych i helpu i greu rhywbeth gwych lle rydych chi’n byw. Efallai eich bod chi am greu gardd gymunedol newydd, rhaglen ieuenctid, neu grŵp cymunedol sy’n bodloni angen penodol. Beth bynnag yw’ch syniad, rydyn ni am i drigolion ddod ymlaen a chyflwyno cais am gyllid. Rwy’n annog unrhyw un sydd â syniad ar gyfer prosiect gwych sy’n bodloni’r meini prawf, i gysylltu â ni, oherwydd gallent greu rhywbeth sy’n cael effaith go iawn yn eu cymuned os yw eu cais yn llwyddiannus.”
Bydd pob cais yn cael ei werthuso ar ôl 1 Rhagfyr 2025, gan banel sy’n cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol. Rhaid i bob prosiect wedyn gael ei gyflawni erbyn 31 Mawrth 2026.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chyflwyno cais am gyllid ar www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/gweud-cais-i-gyllideb-y-gymuned
Gall trigolion neu grwpiau cymunedol sydd â diddordeb gysylltu â Thîm Datblygu Cymunedol Cyngor Sir Fynwy i drafod eu syniadau cyn cyflwyno cais, trwy e-bost – communitydevelopment@monmouthshire.gov.uk
