Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o gyhoeddi bod cyllid wedi’i gadarnhau ar gyfer Pont Teithio Llesol Llan-ffwyst i Ddolydd y Castell.
Mae’r cadarnhad hwn yn garreg filltir arwyddocaol yn uchelgeisiau’r cyngor i alluogi pobl i gerdded, olwyno a seiclo yn hytrach na defnyddio’u car rhwng Llan-ffwyst a chanol tref y Fenni.
Gyda buddsoddiad o £10.4 miliwn o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, mae’r cyngor wedi penodi Balfour Beatty fel y prif gontractwr i ddechrau cyflenwi’r cynllun.
Er bod cost cynllun strategol llawn, gwreiddiol y Fenni wedi’i amcangyfrif yn oddeutu £20 miliwn, mae’r prosiect wedi’i gynllunio i ganolbwyntio ar gyflawni’r groesfan Teithio Llesol, blaenoriaeth glir i’r gymuned sy’n cyd-fynd â’r cyllid presennol sydd ar gael.
Mae’r cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu llwybr teithio llesol diogel a hygyrch a fydd yn cysylltu Llan-ffwyst â chanol tref y Fenni.
Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir bwysig hon o ran creu’r Bont Teithio Llesol o Lan-ffwyst i Ddolydd y Castell.
“Bydd y bont nid yn unig yn darparu gwell cysylltiad i bobl gael mynediad i ganol tref y Fenni, ond hefyd y man gwyrdd hardd y mae Dolydd y Castell yn ei gynnig i’n trigolion.
“Mae hwn yn brosiect cymhleth sydd wedi bod ar y gweill am flynyddoedd lawer a bydd yn cymryd sawl blwyddyn i’w gwblhau oherwydd y cyfyngiadau o weithio mewn ffordd sy’n parchu bioamrywiaeth afon Wysg a’r dolydd. Byddwn yn parhau i geisio cyllid pellach i gwblhau’r rhwydwaith estynedig o lwybrau sy’n cysylltu â’r bont newydd.”
Dysgwch fwy am Deithio Llesol a phrosiect Llan-ffwyst i Ddolydd y Castell yma: www.monlife.co.uk/cy/outdoor/active-travel/
