Bydd Castell Cil-y-coed yn safle gŵyl gelf rhad ac am ddim fis nesaf. Bydd yn gweld rhai o artistiaid mwyaf talentog Sir Fynwy yn ymuno i ddathlu creadigrwydd gyda mynychwyr yr ŵyl ddydd Sadwrn 4 Hydref 2025.
Bydd y digwyddiad teuluol, a gynhelir rhwng 11am a 4pm, yn cynnwys llu o weithgareddau i bobl eu mwynhau, gan eu hannog i fod yn greadigol a chael hwyl.
Ar gyfer y rhai sydd eisiau rhoi cynnig arni, bydd sesiwn darlunio a pheintio awyr agored, murlun cymunedol byw i gyfrannu eto yn ogystal ag arddangosiadau gan artistiaid ac eraill a chyfleoedd eraill i roi cynnig ar gweithgareddau celf a chreadigol newydd. Bydd angen i’r rhai sy’n dymuno cymryd rhan yn y sesiwn awyr agored ddod â: phapur, bordyn i osod y papur arno, pensiliau, paent dyfrlliw, brwshys, dŵr mewn jar, stôl i eistedd arni ac îsl os oes ei hangen.
Caiff plant gyfle i greu celfweithiau mawr o bethau y maent yn dod o hyd iddynt, rhoi cynnig ar lythrennu graffiti a chymryd rhan mewn cystadleuaeth gelf ‘arwyr lleol’.
I gymryd rhan, gofynnir i bobl ifanc 5-11 oed feddwl am berson lleol, lle neu stori sy’n eu hysbrydoli, a darlunio, peintio, argraffu, torri neu lynu eu syniadau ar ddarn o gerdyn A4. Mae angen ysgrifennu enwau ac oedran yn glir ar y cefn a rhaid cyflwyno pob cais i’r castell erbyn 2pm ar y dydd. Cyhoeddir enw’r enillydd am 3pm. Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i ennill bwndel creadigol cyffrous.
Yn ogystal â gweithdai a gweithgareddau, cynhelir amrywiaeth o berfformiadau gan gerddorion a grwpiau lleol, yn ogystal ag arddangosiadau gan artistiaid, yn nhir hardd y castell. Ar gyfer y rhai sy’n dymuno cael lluniaeth, bydd yr ystafell te ar agor i weini diodydd twym a theisennau drwy’r dydd.
Dywedodd y Cyng Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae gan Sir Fynwy gymuned greadigol sydd wedi sefydlu’n dda ac sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr. Mae eu gwaith yn ysbrydoli pobl o bob oed ac mae’n wir yn helpu i hyrwyddo’r sir. Mae’n amlwg iawn fod creadigrwydd yn ffynnu ar draws Sir Fynwy, ac yn sicr yng Nghil-y-coed, fel y bydd yr ŵyl gelf hon yn ddangos.
“Fedra i ddim aros i weld y castell yn llawn o artistiaid lleol a theuluoedd, i gyd yn dathlu’r diwylliant gwych a welwn bob dydd ar draws y sir.”
Os hoffech gymryd rhan fel artist neu berfformiwr neu os oes gennych syniad am sut i gefnogi’r gymuned greadigol leol, anfonwch e-bost at:
katherinemcdermidsmith@monmouthshire.gov.uk.
Caiff y digwyddiad ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a’i threfnu gan Gyngor Sir Fynwy.
