Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o gefnogi Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd yn ystod mis Awst, gyda Chynllun Croesawu Bwydo ar y Fron newydd.

Cynhelir Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd rhwng 1 a 7 Awst ac mae’n ymgyrch fyd-eang flynyddol sy’n cael ei dathlu mewn mwy na 120 o wledydd.

Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd bwydo ar y fron er budd iechyd a llesiant babanod a’u mamau.

Yn Dechrau’n Deg Sir Fynwy, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, rydym yn falch o gyflwyno Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron newydd, yn rhan o’n Strategaeth Bwydo ar y Fron ar gyfer Gwent gyfan, a buasem wrth ein boddau i gael eich cefnogaeth.

Mae’r cynllun yn syml, yn gyflym ac yn cael effaith drawiadol. Y cyfan sydd ei angen yw cyflwyniad byr o 10 munud am gyfreithiau bwydo ar y fron yn y DU, ac yna cofrestru eich safle. Ar ôl i chi gofrestru, bydd aelod o’n tîm Dechrau’n Deg yn ymweld i gyflwyno eich sticer Croesewir Bwydo ar y Fron swyddogol.

Ar ôl tri mis, byddwn yn galw heibio eto i ddilyn ymlaen mewn ffordd gyfeillgar, i weld sut y byddai’ch tîm yn cefnogi mam sy’n bwydo ar y fron ar eich safle chi.

Mae’r cynllun wedi cael croeso mawr yn barod, ac mae Hybiau Sir Fynwy a Neuadd y Sir ym Mrynbuga wedi cofrestru, a chanolfannau hamdden a mannau i dwristiaid yn Sir Fynwy hefyd yn ymuno.

Nawr, rydym yn annog mannau cyhoeddus i gymryd rhan, i helpu i sicrhau bod bwydo ar y fron yn gyhoeddus yn teimlo’n normal ac wedi’i gefnogi a’i groesawu.

Meddai Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Mary Ann Brocklesby: “Nod Cyngor Sir Fynwy yw hyrwyddo hawl rhieni i fwydo ar y fron yn gyhoeddus, ei ddiogelu a’i gefnogi, a gwneud bwydo ar y fron yn fwy derbyniol fel gweithgaredd normal.

“Yn ôl yr ymchwil mae cael eu derbyn a’u cefnogi yn bwysig i annog menywod i barhau i fwydo ar y fron ar ôl y dyddiau cynnar.

“Ein nod yw sicrhau bod Sir Fynwy yn dod yn lle sy’n croesawu mamau sy’n bwydo ar y fron.” Cysylltwch â flyingstart@monmouthshire.gov.uk am ragor o wybodaeth am sut i gofrestru.