Mae Cyngor Sir Fynwy wrth ei fodd yn cyhoeddi ei fod wedi derbyn grant sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi’r Prosiect Neuadd Sirol a fydd yn drawsnewidiol.
Bydd y grant hwn yn galluogi’r Cyngor i wella’r Neuadd Sirol, sydd wedi’i lleoli yng nghanol hanesyddol Trefynwy, yn gyrchfan hygyrch a bywiog i’r gymuned leol ac ymwelwyr.
Nod prosiect y Neuadd Sirol yw creu lle y mae modd i bobl ddarganfod, dathlu a rhannu straeon amrywiol.
Bydd y prosiect yn cynnwys datblygu orielau newydd, gosod system wresogi fodern, a chreu mannau amlbwrpas i gefnogi cynhyrchu incwm. Bydd y gwelliannau hyn yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor yr adeilad rhestredig Gradd I ac yn cynyddu ei effeithlonrwydd amgylcheddol.
Bydd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ar gyfranogiad cymunedol a gwirfoddoli, gydag ystod o weithgareddau a digwyddiadau wedi’u cynllunio i ymgysylltu â chynulleidfa ehangach.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, y Cynghorydd Sara Burch: “Bydd grant y Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ynghyd a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a chronfeydd lleol yn ein galluogi i drawsnewid Neuadd Sirol yn amgueddfa arbennig, gan arddangos casgliad Nelson, hanes Trefynwy a llawer o straeon pwysig arall mewn ffyrdd hygyrch a deniadol. Byddwn yn parhau i weithio gyda phobl Trefynwy a Chyngor Tref Trefynwy i wireddu’r weledigaeth hon.”
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Rydym yn gwybod y gall treftadaeth chwarae rhan enfawr wrth ddod â phobl ynghyd a chreu ymdeimlad o falchder yn nhrefi a dinasoedd pobl, ac yn ei dro hybu’r economi leol. Dyna pam rydym wrth ein bodd yn dyfarnu £1.5 miliwn i drawsnewid Neuadd Sirol hanesyddol Trefynwy yn amgueddfa gymunedol ysbrydoledig. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y cyllid hanfodol hwn yn cadw casgliadau o bwys rhyngwladol wrth greu canolfan ddiwylliannol hygyrch lle gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau’r dreftadaeth bwysig hon am flynyddoedd lawer i ddod.”
Bydd y gwelliannau i’r Neuadd Sirol yn ei gwneud yn lle y mae modd i bobl ddod i fwynhau treftadaeth, a bydd y cyfleusterau newydd yn darparu amodau gwell ar gyfer y casgliadau o bwys rhyngwladol a gedwir ynddi.
Mae’r Cyngor hefyd wedi derbyn cyllid grant gan Raglen Gyfalaf Trawsnewid Diwylliannol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect y Neuadd Sirol. Am ragor o wybodaeth am brosiect y Neuadd Sirol, ewch i: https://www.monlife.co.uk/cy/heritage/the-shire-hall/
