Mae Cabinet Cyngor Sir Fynwy wedi cymeradwyo dau strategaeth nodedig, sef y Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol (CGAN) a’r Strategaeth Seilwaith Gwyrdd (SG).
Mae’r strategaethau hyn yn rhan o golofn adfer natur ar gyfer ymateb Argyfwng Hinsawdd a Natur y Cyngor, gyda’r nod o wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, gwella gwydnwch ecosystemau a hyrwyddo defnydd tir cynaliadwy ar draws y Sir.
Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur (CGAN) Sir Fynwy yn ganllaw syml i helpu i amddiffyn ac adfer natur yn Sir Fynwy. Mae’n annog pobl a chymunedau i gymryd rhan a chymryd camau gweithredu—fel y gallwn ofalu am natur a’i helpu i ffynnu gyda’n gilydd.
Mae’r CGAN lleol yn cymryd y syniadau mawr o’r cynlluniau cenedlaethol a rhanbarthol ac yn eu troi’n gamau gweithredu lleol syml. Dyma bethau y gallwn eu gwneud yn ein cymunedau a safleoedd natur lleol i helpu natur i adfer.
Mae’r Strategaeth Seilwaith Gwyrdd yn nodi dull y Cyngor o wella bioamrywiaeth a chynyddu gwydnwch ecosystemau trwy Seilwaith Gwyrdd. Mae hefyd yn amlinellu dull y Cyngor o wella canlyniadau iechyd a lles, yn ogystal â gweithredu i liniaru newid hinsawdd trwy brosiectau a phartneriaethau ar raddfa fawr.
Cafodd datblygiad y strategaethau hyn ei arwain gan ymgynghoriad cyhoeddus helaeth. Roedd hyn yn cynnwys ymgyrch a lansiwyd yn Sioe Brynbuga yn hydref 2024. Mae’r Cyngor yn diolch i drigolion, busnesau, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid a rannodd eu barn ar yr argyfwng hinsawdd a natur a sut y gall y Cyngor gefnogi gweithredu lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Amlygodd y broses a ddilynwyd gennym i ddatblygu’r strategaethau hyn bwysigrwydd gweithredu ar y cyd wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Bydd y Cyngor nawr yn dechrau gweithredu’r strategaethau, datblygu cynlluniau gweithredu manwl, a chydweithio â phartneriaid fel Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, Partneriaeth Lefelau Byw, a Thirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy.”
Am ragor o wybodaeth ynghylch y Cynllun Gweithredu Naturiol Gwyrdd (NRAP), ewch i: www.monlife.co.uk/cy/outdoor/green-infrastructure/monmouthshire-local-nature-partnership/monmouthshire-local-nrap-action-plan/ ac am y Strategaeth GI, ewch i: www.monlife.co.uk/cy/outdoor/green-infrastructure/strategy-and-guidance/
Eisiau cymryd rhan mewn prosiectau natur a mannau gwyrdd lleol?
Byddem wrth ein bodd yn eich croesawu!
Edrychwch ar y mentrau diweddaraf ar ein gwefan a sut allwch chi gymryd rhan:
www.monlife.co.uk/cy/outdoor/green-infrastructure
Oes gennych chi gwestiynau neu syniadau? Anfonwch e-bost atom yn localnature@monmouthshire.gov.uk
Eleni, bydd Cyngor Sir Fynwy yn dathlu Wythnos Natur Cymru rhwng 5ed Gorffennaf a’r 13eg Gorffennaf 2025, gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau yn digwydd ledled y Sir.
Ar 3ydd Gorffennaf, bydd yna sgwrs am wennoliaid duon yn Nhrefynwy. Ar 5ed Gorffennaf, bydd Grid Gwyrdd Gwent yn mynd â’r BioTapestri i Ddiwrnod Alfred Russel Wallace, sy’n cael ei drefnu gan Gymdeithas Ddinesig Brynbuga. Yn ogystal, bydd Safari Pryfed, a gynhelir wrth Afon Gafenni, yn digwydd yn y Fenni ar 9fed Mehefin.itionally, an Insect Safari, hosted by the River Gavenny, will take place in Abergavenny on 9 June.