Skip to Main Content

Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia – 19-25 Mai 2025

dementia awareness week

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia drwy ddangos sut y gall ein gwasanaeth technoleg gynorthwyol helpu.

Mae mwy na 900,000 o bobl yn byw gyda dementia yn y Deyrnas Unedig. Mae dementia ar 1 mewn 11 o bobl dros 65 oed yn y DU.

Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia eleni rhwng 19 – 25 Mai 2025. Caiff yr ymgyrch ei rhedeg gan Gymdeithas Alzheimer, gyda’r nod o annog pobl a sefydliadau ar draws y DU i weithredu ar dementia a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diagnosis amserol a chywir.

Os ydych yn poeni amdanoch eich hun neu rywun agos atoch, mae help ar gael i ddisgrifio eich symptomau i feddyg teuu drwy lenwi’r rhestr wirio symptomau.

www.alzheimers.org.uk

Gall technoleg gynorthwyol helpu pobl sy’n byw gyda dementia yn eu cartrefi eu hunain yn ogystal â rhoi sicrwydd i berthnasau a gofalwyr.

Mae AssistiveTech Monmouthshire yn cynnig datrysiadau technegol i gefnogi a galluogi pobl i fyw’n gysurus ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Gall yr offer hyrwyddo llesiant, annibyniaeth a chysur gan roi tawelwch meddwl, diogelwch a diogeliad i’r defnyddiwr gwaasanaeth a hefyd eu gofalwyr.

Gall defnyddio technoleg yn eich bywyd bob dydd eich helpu i gynnal eich annibyniaeth, cadw’n ddiogel a chadw’n brysur ac yn cymryd rhan. Mae llawer o ffyrdd y gall technoleg eich helpu i fyw’n dda gyda dementia.

Lifeline a Pendant

Mae uned Lifeline yn cysylltu gyda’r ganolfan monitro yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r ganolfan reoli yn gweithredu gwasanaeth monitro 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn, a chaiff pob galwad eu hateb mewn dull proffesiynol a gofalgar. Bydd Lifeline yn cefnogi dyfeisiau sydd wedi cysylltu o fewn y cartref i gynnwys pendant ar y gwddf neu arddwrn, canfyddwyr cwympiadau ar yr arddwrn, synwyryddion defnyddio gwely a chadair, synwyryddion gwely epilepsi a synwyryddion amgylcheddol (mwg, gwres a carbon monocsid) a synwyryddion gadael eiddo. Mae’r gwasanaeth monitro yn dibynnu ar ymatebwyr lleol. Os nad oes ymatebwyr lleol ar gael, bydd angen seff allwedd yn yr eiddo cyn y medrir gosod.

Canfyddwr Cwympiadau ar yr Arddwrn – cyfysylltiedig gyda Lifeline (diben deuol gyda pendant)

Mae canfyddwyr cwympiadau arddwrn – synhwyrydd diben deuol gyda mesurydd sy’n synhwyro *cwymp uniongyrchol gyda chyflymder a tharo’r ddaear a dim yn synhwyro fod y sawl sy’n ei wisgo yn codi mewn cyfnod byr yn anfon hysbysiad yn awtomatig i ganolfan fonitro Lifeline. Os na chanfyddir y cwymp ac y gall y person wneud hynny, gellir pwyso’r botwm argyfwng ar yr uned. Bydd pob cyswllt o’r canfyddwr cwympiadau i’r Lifeline yn anfon hysbysiad i’r gweithredydd fydd yn gwirio llesiant y person ac yn galw i ymatebwyr fynychu fel sydd angen.

Dyfeisiau Tracio GPS

Gellir gosod dyfais gymdeithasol GPS symudol (ar yr arddwrn, gwddf neu ar glip) i ffonio rhifau cyswllt perthnasau i naill ai hysbysu pan fo’r sawl sy’n gwisgo yn gadael yr eiddo neu adael ardal ddiogel a osodwyd ymlaen llaw. Gosodir ardaloedd diogel drwy ardal geoffens ar fap sy’n galluogi’r sawl sy’n gwisgo i symud yn yr ardal ac anfon hysbysiad os ydynt yn gadael. Caiff hysbysiadau hefyd eu hanfon pan fo’r person yn dychwelyd i’r ardal ddiogel. Dim ond rhifau wedi cofrestru y bydd y ddyfais yn eu ffonio a’u derbyn. Mae’n caniatáu sgyrsiau dwy-ffordd. Bydd gan yr ymatebwyr teulu fynediad i borth i weld lle mae’r ddyfais a hanes galwadau i mewn a mas.

Synwyryddion Gadael Eiddo – cysylltiedig gyda Lifeline (offer monitro synhwyrydd gweithredu ei hun)

Caiff Synwryddion Gadael Eiddo eu cysylltu gyda’r Lifeline drwy flwch rheoli. Gosodir magnetau drws ar brif ddrysau’r tŷ. Mae opsiwn mat synhwyrydd (cyn belled nad yw hyn yn creu perygl baglu) a ellir eu gosod ar 24/7 neu amserau penodol pan fo risg crwydro yn uwch. Fel arfer caiff Lifeline ei osod ger y drws blaen i alluogi’r gweithredwr i siarad gda’r person gan y gall fod yn bosibl eu darbwyllo i ddychwelyd i’r tŷ. Gelwir ar yr ymatebwyr i fynychu os nad oes ateb.

Technoleg Ddeallus

Echo Show neu Dot gda Bylbiau Golau Deallus, Plwg Deallus a synwyryddion symud. Gosodir offer i ostwng risg syrthio yn ystod y nos drwy roi golau ar y daith i’r ystafell ymolchi er engraifft. Gellir rhoi bylbiau golau deallus yn yr ystafell wely, cyntedd ac ystafell ymolchi a ellir naill eu gosod i amserydd eu gweithredu neu eu gweithredu drwy lais. Bydd Echo Show a Dot yn eich galluogi i osod promptiau moddion, chwarae cerddoriaeth, gofyn pa ddiwrnod yw hi neu sut mae’r tywydd. Gall Echo Show hefyd ei gwneud yn bosibl ffonio fideo ar gyfer teulu a ffrindiau.

Plwg Deallus

Plwg Deallus – mae socedi hefyd ar gael ar gyfer goleuadau erchwyn gwely.

Bydd cael goleuadau ymlaen wrth symud o amgylch y tŷ yn galluogi’r person i weld yn well yn y nos fydd yn gostwng y risg o syrthio. Switchbot – switsh golau robotig sy’n gweithio gyda Alexa a’ch galluogi i droi goleuadau nenfwd drwy ddefnyddio llais

Clychau Drws Ring

Gallwch weld, clywed a siarad gydag ymwelwyr o unrhyw le yn eich cartref gyda Cloch Drws Fideo Ring. Gallwch gysylltu hyn gyda’ch Alexa a gweld camera cloch y drws unrhyw amser gan sicrhau diogelwch y defnyddiwr gwasanaeth. Noder – *mae’r defnyddiwr gwasanaeth angen cyfrif Amazon cyn gosod.

Ci/Cath rhyngweithiol

Yn teimlo a swnio fel y peth go iawn! Gyda blew meddal, canu grwndi a miaw cyfeillgar, mae ein hanifail anwes realistig yn rhoi cysur, llawenydd a chwmni gyda’i bresenoldeb rhyngweithiol a chysurlon.

Komp

Mae Komp yn ffordd rwydd  i gyfathrebu gyda theulu a ffrindiau heb unrhyw ffws na straen. Mae’n edrych fel teledu bach y gellir ei osod lle mae’r defnyddiwr gwasanaeth yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser.

Mae’r teulu yn lawrlwytho ap rhwydd ei ddefnyddio sydd â thri botwm h.y. galwad fideo, ychwanegu llun, ychwanegu testun. Gall teulu a ffrindiau gyda mynediad wneud galwadau fideo, anfon lluniau a negeseuon i KOMP ar unrhyw amser.

I ateb galwad fideo, nid yw’n rhaid i’r defnyddiwr gwasanaeth bwyso unrhyw fotymau, mae’n cyhoeddi’r alwad ac yn ateb yn awtomatig 10 eiliad wedyn. Pan anfonir y lluniau i KOMP mae’n gweithio fel ffrâm luniau ddigidol ac yn dangos y lluniau yn eu tro drwy gydol y dydd.

Mae’r dechnoleg yn rhoi tawelwch meddwl i deulu a ffrindiau a helpu’r defnyddiwr gwasanaeth i aros mewn cysylltiad.

Cysylltwch â ni drwy

ffonio: 01633 644644

e-bostassistivetech@monmouthshire.gov.uk

gwefan: AssistiveTech Monmouthshire – Monmouthshire

Dolenni defnyddiol:

< Technoleg Gynorthwyol Sir Fynwy – Monmouthshire