Pasg 2026
Canolfan Gyswllt
Bydd y Ganolfan Gyswllt AR GAU o ddydd Gwener 3 Ebrill a bydd yn ailagor am 9am ddydd Mercher 8 Ebrill
Gallwch ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy i ddweud, gofyn am, neu i archebu.
Hybiau cymunedol
Bydd ein Hybiau ar gau o ddydd Gwener 3 Ebrill tan ddydd Mawrth, 7 Ebrill a byddant yn ailagor ddydd Mercher, 8 Ebrill
MonLife
I wybod mwy am oriau agor mannau hamdden a threftadaeth, cliciwch yma.
Bysiau a Threnau
Bws – Ar gyfer pob taith, gwiriwch trwy www.traveline.cymru/
Trên – ar gyfer pob taith, gwiriwch trwy https://tfw.wales/
Ailgylchu a Gwastraff
Bydd gwasanaethau casglu ailgylchu a sbwriel yn digwydd yn ôl yr arfer.
Gwiriwch adran gwybodaeth leol Fy Sir Fynwy i weld pryd mae’r casgliad nesaf.
Siopau ailddefnyddio
Bydd y siopau ailddefnyddio ar agor yn ôl yr arfer dros y Pasg
Mae Siop Ailddefnyddio Llan-ffwyst ar agor ar ddydd Mawrth o 10am-3pm.
Mae Siop Ailddefnyddio Five Lanes ar agor ar ddydd Mercher o 10am-3pm.

Chwilio am bethau sy’n hwyl i’w gwneud?
Cymerwch gipolwg ar dudalen we Ymwelwch â Sir Fynwy am weithgareddau’r Pasg.