Skip to Main Content

Mae Gwasanaethau Plant a Addysg mewn partneriaeth ag ysgolion cyfun lleol, yn dod at ei gilydd i gynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Sir Fynwy, gan ganolbwyntio ar bobl ifanc a’u teuluoedd.

Bydd y digwyddiadau’n arddangos grwpiau cymunedol lleol ac yn darparu gwybodaeth am wasanaethau cymorth i blant, pobl ifanc a theuluoedd.  Byddant hefyd yn darparu fforwm ar gyfer sgyrsiau am yr hyn sy’n bwysig i blant, pobl ifanc a theuluoedd.  

Yn y digwyddiad, bydd sefydliadau ac asiantaethau yn darparu gwybodaeth gyffredinol ac arbenigol am gymorth ieuenctid, cymorth i deuluoedd, cyllid/pwysau costau byw, tai, bod yn ofalwr/gofalwr di-dâl, anableddau ac anghenion ychwanegol ac eiriolaeth, ymhlith llawer o bethau eraill!


Bydd pobl ifanc yn gallu mynychu’r digwyddiadau a gynhelir yn yr ysgolion yn ystod y diwrnod ysgol, ac ar agor i deuluoedd a’r gymuned ar ôl i’r diwrnod ysgol ddod i ben (3pm-4pm).

  • Ysgol Gyfun Trefynwy, Trefynwy – 23 Mehefin, 9.00am – 4.30pm
  • Ysgol 3-19 y Brenin Harry, Y Fenni – 2 Gorffennaf, 9.00am – 4.30pm
  • Uned Cyfeirio Disgyblion Cas-gwent, Cas-gwent – 6 Gorffennaf, 9.00am – 4.30pm
  • Ysgol Gyfun Cas-gwent, Cas-gwent – 7 Gorffennaf, 9.00am – 4.30pm
  • Ysgol Gyfun Cil-y-coed, Cil-y-coed – 9 Gorffennaf, 9.00am – 4.30pm
  • Uned Cyfeirio Disgyblion Y Fenni, Y Fenni – 13 Gorffennaf, 9.00am – 4.30pm
  • BulliesOut
  • TogetherWORKS
  • Adferiad Gwent Carers Hub & Adferiad Young Carers in Schools Programme
  • New Pathways
  • Prosiect Economi Gylchol
  • Inspire
  • Mind our Future Gwent
  • School and community counselling ( SCC )
  • Tîm Datblygu Cymunedol y cyngor
  • The Cookalong Clwb
  • Keep Abergavenny Tidy
  • Gwasanaeth Ieuenctid
  • Abergavenny boxing club
  • Meic
  • Gofalyddion Ifanc
  • Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Monmouth Litter Group
  • Building Strong Families (BSF), Family Group Conference (FGC) and Family Mediation