MAE NEWID I’R DIGIDOL EISOES WEDI DECHRAU….
Yn draddodiadol, mae galwadau ffôn llinell dir wedi bod yn bosib drwy ddefnyddio rhwydwaith analog. Mae’r rhwydwaith hwn yn hen ffasiwn ac yn mynd yn anodd ac yn ddrutach i’w gynnal, ac felly mae angen cael un newydd yn ei le. Mae’r DU yn symud i rwydwaith ffôn digidol erbyn diwedd 2025 ac felly mae darparwyr telathrebu yn newid i system llais digidol. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich rhif ffôn.
Bydd eich darparwr telathrebu yn cysylltu â chi, os nad yw wedi gwneud hynny eisoes, i ddweud wrthych pryd y bydd yn newid eich rhwydwaith llinell dir.
Fel cwsmer i @assitivetech Sir Fynwy (a elwid gynt yn Careline), gall hyn effeithio ar y gwasanaeth presennol a ddarparwn i chi, yn dibynnu ar y math o offer a ddarparwyd i chi. Ni fydd angen newid pob math o offer, oherwydd efallai eich bod eisoes wedi derbyn uned ddigidol.
Fodd bynnag, bydd ardaloedd bach yng nghefn gwlad Sir Fynwy lle mae signal digidol yn isel. Fe’n cynghorir felly y bydd y gwaith uwchraddio yn yr ardaloedd hyn yn cael ei ohirio nes bod y datrysiad a nodwyd wedi’i brofi’n llawn.
Os ydych chi’n ddibynnol ar eich ffôn llinell dir – er enghraifft, os nad oes gennych chi ffôn symudol neu os nad oes gennych chi signal ffôn symudol yn eich cartref – rhaid i’ch darparwr gynnig ateb i chi i wneud yn siŵr eich bod chi’n gallu cysylltu â’r gwasanaethau brys pan fydd toriad yn y pŵer. yn digwydd. Er enghraifft, ffôn symudol (os oes gennych signal), neu uned batri wrth gefn ar gyfer eich ffôn llinell dir.
Dylid darparu’r ateb hwn yn rhad ac am ddim i bobl sy’n dibynnu ar eu llinell sefydlog – siaradwch â’ch darparwr am yr opsiynau.
Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda darparwyr telathrebu i nodi’r llinellau tir hynny y bydd angen eu huwchraddio o hyd.
Hoffem eich sicrhau bod Cyngor Sir Fynwy, fel eich darparwr gwasanaeth, yn gwybod a fydd angen uwchraddio eich offer. Os felly, dim ond ein Tîm Gosod @assitivetech Sir Fynwy a fydd yn cysylltu â chi i drefnu hyn ar yr amser priodol.