Skip to Main Content
Y Cyngh. Catherine Fookes yn yr Uwchgynadleddau Costau Byw yn trafod pa gymorth sydd angen gydag aelodau o’r mudiadau lleol
Y Cyngh. Catherine Fookes yn yr Uwchgynadleddau Costau Byw yn trafod pa gymorth sydd angen gydag aelodau o’r mudiadau lleol 

  

Dros y bythefnos ddiwethaf, mae cyfres o uwchgynadleddau Costau Byw wedi eu cynnal ar hyd a lled trefi Sir Fynwy. Roeddynt wedi eu cynnal gan gasgliad o fudiadau sydd yn gweithio mewn cymunedau  a’u harwain gan dîm cymunedau Cyngor Sir Fynwy, mewn partneriaeth gyda  GAVO (Gwent Association of Voluntary Organisations) a Chymdeithas Tai Sir Fynwy. Roedd grwpiau cymunedol annibynnol a gwirfoddolwyr wedi mynychu wrth iddynt geisio mynd i’r afael gyda thlodi a’r anghydraddoldebau yn eu hardaloedd lleol.    

Cynhaliwyd cyfarfodydd ym Magwyr, Gwndy, y Fenni, Trefynwy, Cil-y-coed, Cas-gwent, Rhaglan a Brynbuga, gan ddenu mwy na  100 o bobl. Roeddynt wedi amlygu fod grwpiau cymunedol eisoes yn gwneud llawer o waith yn cefnogi’r bobl fwyaf bregus, a hynny o’r grwpiau cymdeithasol ar gyfer  dementia i gynlluniau rhannu ceir yn y gymuned, grwpiau cymorth ar gyfer cyffuriau ac  alcohol, gwasanaethau cyngor a chymorth, banciau bwyd, oergelloedd cymunedol a mwy.   

Fodd bynnag, mae grwpiau cymunedol yn pryderi am y gaeaf sydd i ddod gyda’r cynnydd mewn costau byw. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi dwyn pobl ynghyd wrth i ni geisio mynd i’r afael gyda’r argyfwng gyda’n gilydd. Mae syniadau sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil yr uwchgynadleddau yma yn cynnwys darparu mwy o brydau bwyd cymunedol,  sefydlu cronfa fwyd cymunedol ar gyfer y sawl sydd am gyfrannu eu taliad gwres o £400, a llunio rhestr o‘r llefydd sydd ar agor a phan eu bod ar agor i fod yn hybiau i gadw’n dwym.   

Dywedodd y Cyngh. Catherine Fookes, Aelod Cabinet ar gyfer Cydraddoldeb yng Nghyngor Sir Fynwy: “Roeddwn wedi fy ysbrydoli a’m cyffwrdd gan y gweithgareddau a’r gefnogaeth y mae ein cymunedau eisoes yn darparu ar gyfer y sawl sydd yn ein cymdeithas sydd yn fwyaf bregus ac rwy’n falch o’r hyn yr ydym wedi gwneud fel Cyngor gyda’n taliadau costau byw o £150 er mwyn cefnogi’r sawl sydd â’r angen mwyaf. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, rhaid i ni oll weithio gyda’n gilydd, gyda’n grwpiau  cymunedol ffantastig a’n canolfannau cymunedol. Nawr, byddwn yn mynd ati i gasglu’r holl ganlyniadau a’r syniadau er mwyn datblygu’r rhain, cysylltu pobl a’n helpu i gefnogi’r grwpiau hynny drwy ddod o hyd i’r cyllid neu’r gwirfoddolwyr y maent angen.”

Os ydych am ddysgu mwy am wirfoddoli yn eich cymdogaeth neu am chwarae rhan mewn ffyrdd eraill, e-bostiwch    partnerships@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644696.