Skip to Main Content

Ysgol Brenin Harri VIII 3-19

Mae’r prosiect £70 miliwn, a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Fynwy o dan y rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu ac a adeiladwyd gan Morgan Sindall, yn cynrychioli buddsoddiad beiddgar yn nyfodol addysg yn y rhanbarth.

Ar ôl pedair blynedd o gynllunio ac adeiladu, wnaeth yr adeilad newydd croesawu disgyblion yn dilyn gwyliau’r Pasg.

Mae hyn yn dynodi amser newydd cyffrous yn hanes yr ysgol ac addysg yn Sir Fynwy. Yr adeilad hwn fydd yr ysgol pob oed ddi-garbon net gyntaf yng Nghymru, wedi’i dylunio i ddefnyddio ynni isel wrth adeiladu a gweithredu, gyda’r nod o leihau costau cynnal a chadw yn y dyfodol yn sylweddol.

Bydd nodweddion allweddol safle newydd Brenin Harri VIII yn cynnwys:

  • Ysgol Ddi-Garbon Net gyntaf Sir Fynwy gyda mwy na 15,000m² o arwynebedd llawr defnyddiadwy
  • Dyluniad sy’n integreiddio natur ac elfennau naturiol yn bwrpasol i’r adeilad
  • Cyfleusterau chwaraeon eithriadol, gan gynnwys cae 3G, cae hoci ar lefel sirol, ac amrywiol Ardaloedd Chwaraeon Amlddefnydd
  • Dwy ysgol goedwig i hyrwyddo a hwyluso dysgu awyr agored
  • Cyfleusterau cymunedol

Ysgol 3-19 oed Brenin Harri VIII yw ysgol pob oed gyntaf Sir Fynwy, o ganlyniad i uno Ysgol Uwchradd Brenin Harri VIII ac Ysgol Gynradd Deri View.

Ysgol Gyfun Cil-y-coed

Mae’r amgylchedd dysgu £36.5m yn cynnwys cyfuniad o ardaloedd ar arddull theatr, neuadd fawr a  gofodau stiwdio i astudio’n anffurfiol, ynghyd ag ystafelloedd naturiol gyda golau naturiol ac ardaloedd tawelach i bobl ifanc eu mwynhau.  Mae technoleg ddigidol 21ain ganrif ym mhob rhan o’r ysgol newydd yn cynnwys taflunwyr safon sinema a gyfrannwyd gan arbenigwyr clywedol Ricoh mewn gofodau arddull theatr a thechnoleg ryngweithiol i athrawon rannu gwybodaeth gyda chydweithwyr a myfyrwyr.

Mae’r gofod effeithiol o ran ynni yn cynnwys technoleg hunan-oeri mewn tywydd twym gyda rhyddhau gwres i ostwng yr angen am wresogi traddodiadol. Cynyddir golau naturiol ym mhob rhan gyda goleuadau awtomatig i arbed trydan.

Cafodd yr ysgol ei hadeiladu gan bobl leol – gyda 70% o’r adeiladwyr, trydanwyr, plymwyr a pheirianwyr ar y safle yn byw yn yr ardal, yn cynnwys rhai cyn ddisgyblion. Dysgodd llawer o brentisiaid sgiliau ar y safle ac mae myfyrwyr profiad gwaith wedi cyfrannu at y prosiect i roi cyfleoedd swyddi yn y dyfodol. Mae Interserve mewn cysylltiad gyda’r cyngor sir a chynllun rhannu prentisiaeth Y Prentis sy’n gweithredu yn ne ddwyrain Cymru wedi rhagori gan 200% ar y targed ar gyfer buddion cymunedol y prosiect.

 Adeiladu Ysgol Cil-y-coed:

Ysgol Gyfun Trefynwy

Cafodd disgyblion yn Nhrefnwyr eu croesawu i’w hysgol 21ain Ganrif newydd ddydd Llun 17 Medi 2018. Dechreuodd myfyrwyr a staff ar y flwyddyn academaidd yn eu ysgol newydd o’r math diweddaraf. Mae Cyngor Sir Fynwy mewn cysylltiad gyda phartneriaid yn Interserve, y grŵp gwasanaethau cefnogaeth ac adeiladu rhyngwladol, a Llywodraeth Cymru wedi sicrhau amgylchedd dysgu newydd gwych ar gyfer disgyblion a staff. Bydd gofodau braf yn ysbrydoli ac yn gwella profiadau dysgu.

Mae’r amgylchedd dysgu £40m yn cynnwys cyfuniad o ardaloedd arddull theatr, neuadd fawr a gofodau stiwdio i astudio’n anffurfiol, ynghyd ag ystafelloedd dosbarth gyda golau naturiol ac amrywiaeth o ofodau hamdden i bobl ifanc eu mwynhau. Defnyddir technoleg ddigidol 21ain ganrif ym mhob rhan o’r adeilad sy’n cynnwys taflunwyr ansawdd sinema a’r offer addysgu rhyngweithiol diweddaraf ar gyfer athrawon a myfyrwyr.

Cynlluniau Ysgol Gyfun Trefynwy

Croeso i ysgol gyfun newydd a gwell Trefynwy:

Gwedd newydd Ysgol Gyfun Trefynwy:

Ysgol Gynradd a Reolir yn Wirfoddol Eglwys yng Nghymru Rhaglan

Dechreuodd y prif gontract dylunio ac adeiladu ym mis Hydref 2013 gyda Morgan Sindall Cyf o Gaerdydd wedi eu penodi yn brif gontractwr. Roedd safle’r ysgol newydd yn gyfuniad o’r hen ysgol gynradd a safle tir llwyd lle arferai fod yn fferm. Roedd y ddau safle wedi eu rhannu gan nant ac roedd angen llwybr troed cyhoeddus i alluogi adeiladu’r ysgol.

Roedd cyfnod cyntaf y contract (a gwblhawyd ym mis Mehefin 2015) i ddarparu’r adeilad ysgol newydd ynghyd â mynediad i gerddwyr a staff, ac ardaloedd chwarae a thirlun cysylltiedig. Roedd yr ail gam yn cynnwys dymchwel adeilad yr hen ysgol babanod, darparu ardaloedd gollwng ar gyfer yr ysgol a maes parcio cymunedol ar gyfer defnydd yr ysgol a phentref Rhaglan.

Caiff y ddau safle eu cysylltu gyda phontydd troed i gerddwyr dros y nant ac mae’r llwybr troed cyhoeddus yn mynd o amgylch terfyn allanol yr ysgol.

Bydd cynnwys celloedd ffoto-foltaig, casglu dŵr glaw, gwres biomas a lefelau uchel o insiwleiddiad yn darparu adeilad effeithol o ran ynni, a bydd adeiladu’r ysgol yn cyrraedd graddiad Rhagorol BREEAM gyda graddiad EPC o A+.