Datganiad Hygyrchedd
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.monmouthshire.gov.uk/cy
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Fynwy. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu ddefnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu:
- Newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau’r ddyfais neu’r porwr
- Closio hyd at 400% heb fod y testun yn cwympo oddi ar y sgrin
- Llywio ffordd trwy y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
- Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gyda chi anabledd.
Pa mor hygyrch mae’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF a lanlwythwyd cyn 2018 yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin
- Nid yw rhai dogfennau PDF a lanlwythwyd ar ôl 2018 yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin
- Nid oes isdeitlau ar ffrydiau fideo byw
- Ni allwch neidio i’r prif gynnwys pan fyddwch yn defnyddio darllenydd sgrin
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os dewch chi o hyd i unrhyw broblemau na ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
Tîm Cyfathrebu
E-bost: communications@monmouthshire.gov.uk
Cyfeiriad: Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Neu ffoniwch y ganolfan gyswllt a gofynnwch i gael siarad ag aelod o’r tîm cyfathrebu 01633 644644
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi ar y wefan hon mewn ffurf wahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordio clyw neu braille:
Tîm Cyfathrebu
E-bost: communications@monmouthshire.gov.uk
Cyfeiriad: Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Neu ffoniwch y ganolfan gyswllt a gofynnwch i gael siarad ag aelod o’r tîm cyfathrebu 01633 644644
Fe wnawn ni ystyried eich cais a chysylltu â chi ymhen 30 diwrnod.
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl B/byddar, â nam ar y clyw neu sydd ag atal dweud.
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni anwytho clyw, neu, os byddwch yn cysylltu â ni cyn i chi ymweld, gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon wedi ei phrofi yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2. Rydym yn defnyddio teclyn hygyrchedd a elwir Silktide.
Mae’r wefan yn cydymffurfio’n rhannol â safon WAA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.2 oherwydd y diffyg cydymffurfiad a’r eithriadau a restrir isod.
Rydym yn monitro hygyrchedd yn rheolaidd gan ddefnyddio Silktide ac yn ymgymryd â gwelliannau parhaus i fynd i’r afael â phroblemau a nodwyd a gwella cydymffurfiaeth dros amser. Gallwch weld ein perfformiad hygyrchedd diweddaraf trwy Fynegai Silktide ar gyfer Hygyrchedd Cynghorau i Gyngor Sir Fynwy
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Diffyg cydymffurfiaeth â rheoliadau hygyrchedd
Y diffyg cydymffurfio / cynnwys nad yw’n hygyrch
- Mae rhai dogfennau PDF a gyhoeddwyd ar y wefan nad ydynt yn gwbl hygyrch. Mae’r problemau’n cynnwys teitlau coll ar ddogfennau, tagiau strwythur coll ar ddogfennau a gwybodaeth trefn darllen, a gall hyn wneud dogfennau’n anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrin eu defnyddio. Mae’r materion yma’n methu meini prawf llwyddiant 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd) a 2.4.2 (Teitlau Tudalennau) WCAG 2.2.
- Nid oes gan rai lluniau ar y wefan destun amgen priodol, sy’n golygu na fydd pobl sy’n defnyddio darllenydd sgrin efallai’n gallu cyrchu’r wybodaeth sydd ynddyn nhw. Mae hyn yn peri methu maen prawf 1.1.1 (Cynnwys nad yw’n destun) WCAG 2.2.
- Nid oes gan rai lluniau destun amgen, felly ni all rhai pobl sy’n defnyddio darllenydd sgrin gyrchu’r wybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.1.1 (cynnwys nad yw’n destun) WCAG 2.2.
- WCAG 2.1.1 Bysellfwrdd
- WCAG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- WCAG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd – Rhaid cadw rhai rolau ARIA gan rieni priodol
- WCAG 2.1.1 Bysellfwrdd – rhaid bod gan y rhan y gellir sgrolio fynediad trwy fysellfwrdd
- WCAG 3.1.1 Iaith y Dudalen
- WCAG 1.1.1 Cynnwys nad yw’n Destun
- WCAG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd- nid yw’r cynnwys wedi ei dagio
- WCAG 1.4.3 Cyferbynnedd
Byddwn yn gweithio ar yr uchod i gyd, gan wella a diweddaru trwy’r map ffordd a ddangosir isod.
Rydym yn parhau i nodi a chywiro lluniau nad oes ganddynt destun amgen priodol. Pan fo cynnwys newydd yn cael ei gyhoeddi, mae gofyn i olygyddion cynnwys ddarparu testun amgen addas ar gyfer lluniau yn unol â safonau hygyrchedd.
Rydym yn adolygu cynnwys gwefannau’n rheolaidd ac yn ceisio ymdrin â phroblemau a nodwyd fel rhan o’n rhaglen barhau gwelliant hygyrchedd. t and aim to address identified issues as part of our ongoing accessibility improvement programme.
Baich anghymesur
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cwblhau asesiad o faich anghymesur, mae hyn i’w gael yn y ddogfen yn y ddolen isod.
Byddwn yn adolygu’r asesiad baich anghymesur yma pryd bynnag y bydd newid sylweddol i lwyfan y wefan, pan fydd trefniadau cyflenwyr yn cael eu hadolygu, neu heb fod yn hwyrach na Medi 2027.
Cynnwys nad yw o fewn amrediad y rheoliadau hygyrchedd
PDF a dogfennau eraill
Nid yw nifer o ddogfennau PDF ac Office a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 yn gwbl hygyrch. Efallai nad yw’r dogfennau hyn wedi eu strwythuro ar gyfer darllenyddion sgriniau, efallai eu bod yn brin o benawdau cywir, teitlau dogfennau, testun amgen ar gyfer lluniau neu nodweddion hygyrchedd eraill.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn gwneud y dogfennau hyn yn hygyrch oni bai eu bod yn hanfodol ar gyfer cyrchu gwasanaeth. Pan fod angen dogfen hŷn i gyrchu gwasanaeth y cyngor, byddwn yn darparu dogfen amgen hygyrch ar gais.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Office newydd a gyhoeddir gan Gyngor Sir Fynwy’n cael eu cynhyrchu gan gofio gofynion hygyrchedd a, ble bynnag y bo’n bosibl, byddan nhw’n bodloni safonau hygyrchedd cyn eu cyhoeddi.
Fideo byw
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu isdeitlau i ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi ei eithrio o’r gofyniad i fodloni rheoliadau hygyrchedd.
Yr hyn yr ydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i wella hygyrchedd ei wasanaethau digidol yn barhaus. Rydym yn monitro hygyrchedd www.monmouthshire.gov.uk/cy yn rheoliadd gan ddefnyddio profion awtomataidd trwy Silktide ac yn cynnal adolygiadau parhaus o gynnwys y wefan a dogfennau. Mae ein map ffordd isod yn amlinellu’r meysydd yr ydym yn eu blaenoriaethu i wella cydymffurfiad â safonau AA WCAG 2.2 a gwella’r profiad i bob defnyddiwr.
Map ffordd hygyrchedd ar gyfer www.monmouthshire.gov.uk/cy
2026
- Parhau gyda monitro hygyrchedd misol gan ddefnyddio offer profi awtomataidd ac â llaw.
- Parhau i nodi a chywiro testun coll neu amgen anaddas ar draws meysydd cynnwys sy’n flaenoriaeth.
- Sicrhau bod dogfennau PDF ac Office a gyhoeddir yn newydd yn cael eu gwirio at ddibenion hygyrchedd a darparu dewisiadau hygyrchedd amgen lle bo hynny’n briodol.
- Darparu cyfarwyddyd hygyrchedd ychwanegol a hyfforddiant i olygyddion cynnwys y wefan.
2027
- Adolygu modd llywio’r wefan a strwythur tudalennau i nodi cyfleoedd i wella’r gallu i lywio trwy’r bysellfwrdd a’r gallu i ddefnyddio darllenyddion sgrin.
- Gweithio gyda darparwyr ein gwefan i ymchwilio i atebion i faterion yn ymwneud â dyluniad ymatebol, gorfodi testun ac adlif tudalennau.
- Ehangu profi hygyrchedd i gynnwys amrywiaeth ehangach o dechnolegau cynorthwyol a theithiau defnyddwyr.
Ongoing
- Monitro cydymffurfiaeth hygyrchedd yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.2.
- Mynd i’r afael â materion hygyrchedd a nodwyd trwy archwiliadau, adborth defnyddwyr a phrofi.
- Sicrhau bod hygyrchedd yn cael ei ystyried pryd bynnag y bydd cynnwys, gwasanaethau neu nodweddion newydd yn cael eu cyflwyno.
Bydd y map ffordd yma’n cael ei adolygu a’i ddiweddaru’n rheolaidd i adlewyrchu cynnydd, newid yn anghenion defnyddwyr a chyfleoedd i wella.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 28 Medi 2026. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 28 Medi 2026.
Profwyd y wefan y tro diwethaf yn fisol ar Silktide yn erbyn safon AA WCAG 2.2.
Mae profi’n cael ei wneud gan ddefnyddio llwyfan hygyrchedd Silktide, sy’n cynnal gwiriadau awtomataidd yn erbyn gofynion AA WCAG 2.2. Mae canlyniadau’n cael eu hadolygu’n fisol gan dîm gwefan y cyngor. Mae’r asesiad cyfredol yn seiliedig ar brofi awtomataidd o tua 125 o dudalennau gwe ar draws y wefan.