Nodwch
Mae hwn yn wasanaeth a rennir a ddarperir i drigolion Torfaen a Sir Fynwy
Mae hawlio’r budd-daliadau hyn nawr yn haws, gallwch nawr hawlio:
Ar-lein
Darperir ein gwasanaeth budd-daliadau gan Gyngor Bwrdeistref Torfaen. Ewch i’r dudalen hon a dewiswch ‘Gwasanaeth Budd-daliadau, y Dreth Gyngor a Threthi Busnes Ar-lein’ i weld a fydd gennych hawl neu i wneud hawliad am Fudd-dal Tai neu ostyngiad yn y Dreth Gyngor
Dros y Ffôn
Gallwch hawlio dros y ffôn ar 0300 4563559. Bydd angen y canlynol arnom:
- Enw
- Cyfeiriad
- Rhif Ffôn Cyswllt
Yna byddwn yn trefnu i gwblhau eich hawliad gyda chi trwy gyfweliad personol yn un o’n hybiau cymunedol.
Mewn Person
Galwch i mewn i un o’n hybiau cymunedol a gwnewch apwyntiad ar gyfer cyfweliad personol. Os ydych yn cael trafferth cyrraedd un o’n swyddfeydd neu gwblhau’r ffurflen, cysylltwch â ni ar 01495 766430 i drefnu i ni ymweld â chi.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein taflenni neu drwy gael mynediad i’r Taflenni Budd-daliadau Cenedlaethol.
Cysylltiadau
Rhif Ffôn Switsfwrdd Cyngor Sir Fynwy: 01633 644644
Rhif Ffôn Switsfwrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen: 01495 762200
E-bostiwch Dîm Sir Fynwy: benefits@monmouthshire.gov.uk
E-bostiwch Dîm Torfaen: benefitapplication@torfaen.gov.uk