Beth ydyw?
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn galluogi unrhyw un i ofyn i ni ryddhau gwybodaeth a ddaliwn ar unrhyw bwnc neilltuol.
Mae’n ofynnol i ni roi’r wybodaeth os nad oes rhesymau da am beidio gwneud hynny. Mae’r Ddeddf yn cydnabod dros ugain o resymau, yn cynnwys:
- Bydd yn costio gormod i gasglu’r wybodaeth
- Mae ar gael mewn man arall
- Bwriadwn ei gyhoeddi yn y dyfodol
- Mae’n ymwneud â pherson sy’n dal yn fyw
- Casglwyd yr wybodaeth ar gyfer diben ymchwiliadau neu drafodion y mae gennym hawl i’w cynnal, megis gorfodaeth.
Mewn llawer o achosion, bydd yn rhaid i ni benderfynu os yw diddordeb y cyhoedd mewn peidio rhyddhau’r wybodaeth yn gryfach na’r diddordeb cyhoeddus yn ei rhyddhau.
Cynllun Cyhoeddi
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi derbyn model cynllun cyhoeddi y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae’n nodi pa fath o wybodaeth mae’r Cyngor yn bwriadu ei rannu’n rheolaidd. Dylai’r wybodaeth hon fod yn hawdd i’r awdurdod ac unrhyw unigolyn ddod o hyd iddi a’i defnyddio.
https://ico.org.uk/media/for-organisations/documents/1155/model-publication-scheme-welsh.pdf
Helpwch Eich hunain…
I rai o’r ceisiadau rhyddid gwybodaeth mwy cyffredin a dderbyniwn, rydym yn cyhoeddi’r wybodaeth ar y wefan.
- Cyfraddau eiddo busnes – ar y dudalen data agored fe welwch ddolen i’r ‘Set ddata eiddo busnes’
- Claddedigaethau Iechyd Cyhoeddus – rydym yn cyhoeddi’r wybodaeth hon ar y dudalen mynwentydd a chladdedigaethau.
- Cyn-Gynllunio Cynllunio – Os yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn cael cais, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, i ddatgelu gwybodaeth mewn perthynas ag ymholiad ynglŷn â chais sydd heb gael ei gyflwyno eto, mae’n rhaid iddynt ddatgelu’r wybodaeth, oni bai ei bod yn cael ei hystyried yn wybodaeth sydd wedi ei heithrio. Nodyn: Dim ond os yw’r wybodaeth yn syrthio o dan un o’r eithriadau sydd wedi eu gosod yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, neu un o’r eithriadau sydd wedi eu gosod yn y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, y gellir gwrthod datgelu gwybodaeth. Ar gyfer rhai materion sy’n codi cyn i gais gael ei gyflwyno, bydd y sawl sy’n gwneud cais yn cael ei gynghori i gwblhau rhestr wirio sy’n ymwneud â materion masnachol sensitif. Bydd hyn yn rhoi amlinelliad clir o’r rhesymau dros gadw’r wybodaeth sy’n berthnasol i’r cais yn gyfrinachol, ac yn nodi am ba hyd y dylid gwneud hynny. Fodd bynnag, er y byddwn yn cymryd y safbwyntiau yma i ystyriaeth, y Cyngor fydd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad terfynol ar p’un ai i atal y wybodaeth neu beidio. Mae’r Cyngor yn cydymffurfio’n llawn gyda’r Ddeddf Diogelu Data ac ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei rhannu â thrydydd parti.
Fel arall, efallai y byddai’n werth gwirio ceisiadau blaenorol Rhyddid Gwybodaeth a gyflwynwyd drwy What Do They Know
Gwneud cais
Y ffordd orau i wneud cais Rhyddid Gwybodaeth yw drwy’r ffurflen ar-lein islaw. Os nad ydych eisiau cofrestru ar Fy Sir Fynwy gallwch gyflwyno cais heb gwblhau’r broses gofrestru, fodd bynnag byddwn yn defnyddio Fy Sir Fynwy i symud ymlaen a gweithredu eich cais.
I gael gwybodaeth ar sut ydym yn trin a phrosesu eich data personol ewch i adran Preifatrwydd ein gwefan (yma ac yma, edrychwch ar bolisi’r ganolfan cyswllt).
Fel arall:
- Drwy e-bost at: foi@monmouthshire.gov.uk
- Drwy lythyr at: Swyddog Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth, Cyngor Sir Fynwy, Blwch SP 106, Cil-y-coed, NP26 9AN
- Ar Twitter (@MonmouthshireCC)
Gallwch ddarllen canllaw defnyddiol ar ofyn am wybodaeth ar wefan y Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth.