Skip to Main Content

Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd fwyaf hawdd a mwyaf diogel i dalu eich biliau yn gyson.  Mae manylion isod am yr hyn yr ydych yn medru talu amdano gan ddefnyddio Debyd Uniongyrchol. Mae taliadau fel arfer yn cael eu casglu yn fisol  ac mae modd dewis dyddiad penodol ar gyfer casglu arian ar gyfer talu am rai gwasanaethau. Cliciwch ar y gwasanaeth perthnasol am fanylion pellach:

Y Dreth Gyngor:

Rydych yn medru dewis dyddiad ar gyfer casglu’r Debyd Uniongyrchol – 1af, 8fed, 15fed  a’r 24ain o bob mis.

Rydych yn medru trefnu Debyd Uniongyrchol ar gyfer talu’r Dreth Gyngor drwy ddefnyddio ein cyfleuster cyfrif ar-lein https://www.northgate-nes.co.uk/pls/pwslive/call_initial_apex_page.nes_selfsrv?service=CAR&la=MON&language=ENG&options=CT

Fel arall, rydych yn medru lawrlwytho ffurflen Mandad Debyd Uniongyrchol DDM ac e-bostio hyn at CouncilTax@monmouthshire.gov.uk neu dylech ei bostio at y Tîm Refeniw gan ddefnyddio’r cyfeiriad sydd ar y ffurflen.

Er gwybodaeth, ein manylion banc ar gyfer taliadau treth gyngor yw  20-18-23 (rhif didoli) a 43972321 (rhif y cyfrif).